Cae 4G awyr agored

Mae Eirias yn falch ac yn freintiedig i allu cynnig cae synthetig 4G pob tywydd. Mae’r cae maint llawn hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pêl-droed a rygbi gan glybiau ac ysgolion lleol ac yn golygu bod modd iddynt chwarae gemau ym mhob tywydd. Bydd y cae hefyd yn adnodd hyfforddi ar gyfer timau rhanbarthol Gogledd Cymru.
Mae arwyneb y cae yn creu amodau chwarae ffafriol dros ben sy'n hynod o debyg i chwarae ar gae naturiol. Dyluniwyd y cael gyda phêl-droed a rygbi mewn golwg. Mae’r cae ar gael i’w hurio fel cae cyfan, hanner cae neu 1/3 cae fel sy'n angenrheidiol.
Rhestrau Prisiau
Archebu:
Ffôn 0300 456 95 25 | Ebost: hamdden.leisure@conwy.gov.uk