top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
start content

Eirias a'r Gymuned

Yn Eirias rydym yn deall pwysigrwydd ein cymuned leol, a'r effaith y gall lleoliad fel Parc Eirias ei chael ar gymunedau. Ein hethos yw ein bod yn 'stadiwm lleol i bobl leol', ac wrth graidd yr ethos hwnnw yw'r bobl sy'n defnyddio ein cyfleusterau.

O bobl chwaraeon elît i glybiau 'llawr gwlad', mae ein lleoliad yn cynnig cyfleoedd i bawb.  Os ydych chi neu eich clwb â diddordeb mewn darganfod sut y gallai Eirias ddod yn faes hyfforddi lleol i chi, cysylltwch â ni.

Yn ogystal â chyfleoedd chwaraeon, mae Eirias hefyd yn cynnig lleoliad i gynnal achlysuron arbennig. O briodasau i gynadleddau a phopeth yn y canol, mae gan Eirias y cyfleusterau a'r arbenigedd i sicrhau bod eich digwyddiad yn llwyddiant.



end content