top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
start content

Lletygarwch

Rydym yn cynnig pecynnau lletygarwch o'r radd flaenaf ym mhob un o'n digwyddiadau, sy'n golygu y gallwch wneud eich ymweliad a Parc Eirias yn fwy arbennig.

Mae pecynnau’n amrywio o brydau cyn y gêm / digwyddiad wedi’u gweini yn ein hystafell lletygarwch, i fwynhau preifatrwydd y gall un o'n blychau lletygarwch ger y cae eu cynnig, gan roi cyfle i chi fwynhau'r seddi gorau yna a mwynhau’r awyrgylch fel VIP.

Mae ein pecyn blwch lletygarwch yn cynnwys:

  • Pryd cyn gêm
  • Eich blwch lletygarwch unigryw i chi a’ch gwesteion, ynghyd â seddi balconi.
  • Bar am ddim i gynnwys cwrw, gwinoedd a diodydd ysgafn*
  • Rhaglen swyddogol y digwyddiad
  • 3 thocyn parcio ar gyfer pob blwch

*Mae diodydd am ddim yn cael eu cynnig o 90 munud cyn i’r gêm ddechrau a hyd at 45 munud ar ôl y chwiban olaf. Nid yw Gwirodydd yn cael eu cynnwys.

I gael gwybod mwy, neu i archebu pecyn, cysylltwch:

Parc Eirias
Bae Colwyn
Conwy
LL29 7SP

Rhif Ffôn: 0300 456 95 25
 
E-bost: hamdden.leisure@conwy.gov.uk 
end content