Gwobrau Chwaraeon Conwy
Gwybodaeth am y Gwobrau Chwaraeon
Ers 1998, mae Gwobrau Chwaraeon Conwy wedi bod yn rhoi sylw i athletwyr anhygoel ac arwyr tawel Bwrdeistref Sirol Conwy.
O sêr ifanc y dyfodol i gystadleuwyr profiadol, mae’r gwobrau hyn yn dathlu’r rhai sy’n gwthio ffiniau rhagoriaeth yn eu camp ddewisol, yn ogystal â’r unigolion ymroddedig sy’n gweithio’n ddiflino y tu ôl i’r llenni i gefnogi clybiau ac athletwyr o un wythnos i’r llall.
Mae Conwy yn gartref i dalent eithriadol, gyda chystadleuwyr yn gwneud argraff ar lwyfannau cenedlaethol, rhyngwladol a hyd yn oed ar draws y byd. Mae’r digwyddiad mawreddog hwn, a gynhelir bob blwyddyn yn Venue Cymru, prif theatr a lleoliad cynadledda Conwy, yn ddathliad go iawn o ymroddiad, angerdd a chyrhaeddiad mewn chwaraeon.
Mae’r Gwobrau Chwaraeon wedi eu llunio i gydnabod ac anrhydeddu pobl dalentog ym maes chwaraeon, clybiau chwaraeon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yng Nghonwy.
Y categorïau yw:
- Campwr Iau y Flwyddyn
- Campwraig Iau y Flwyddyn
- Tîm Chwaraeon Ieuenctid
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
- Gwobr Llwyddiant Arbennig
- Campwr Hŷn y Flwyddyn
- Campwraig Hŷn y Flwyddyn
- Tîm Chwaraeon Hŷn
- Hyfforddwr y Flwyddyn
- Gwasanaethau i Chwaraeon
- Gwirfoddolwr y flwyddyn
Ymunwch â ni wrth i ni anrhydeddu’r rhagoriaeth mewn chwaraeon sy’n gwneud Conwy yn falch!
Noddi Gwobrau Chwaraeon
Manylion Cyswllt:
Caroline Jones, Rheolwr Datblygu Hamdden
Ffôn: 0300 456 95 25
E-bost: caroline.jones@conwy.gov.uk
Blynyddoedd blaenorol:
Gwobrau Chwaraeon 2025
Gwobrau Chwaraeon 2024