start slider

end slider
start grid

Gweithgareddau Gwyliau’r Ysgol

Gweithgareddau Gwyliau’r Ysgol yn eich Canolfan Hamdden Ffit Conwy leol. Peidiwch â diflasu yn ystod y gwyliau gyda Gweithgareddau Gwyliau Ysgol Ffit Conwy! Mae’n ffordd wych o gael y plant i symud, magu hyder, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau ar hyd y ffordd!

Llun o blant yn chwarae

Gwersyl Chwaraeon - Llandudno

Ystod Oedran: 5-11

Sesiwn nofio a chwarae awr o hyd, gyda diwrnod llawn o weithgareddau chwaraeon hwyliog i ddilyn. (mae’r gweithgareddau’n amrywio)

Dyddiadau a Lleoliadau

Canolfan Nofio Llandudno 
and Canolfan Hamdden John Bright

  • Llun 27 Hydref - Gw 31 Hydref
    8:30am - 4:30pm 

Dydd Gwener: Yn arbennig ar gyfer Calan Gaeaf, gyda gemau Tag Sombis, Bowlio Ysbrydion, Ras Gyfnewid Rholio Pwmpenni, Disgo Sglefrolio Calan Gaeaf a mwy!

 

Cost: £27.50 y diwrnod (neu os yw’r plentyn ar Ddebyd Uniongyrchol Nofio: £25.30)

Archebu lle: 0300 456 95 25

Llun o ferch yn nofio

Gwersi Nofio Dwys

Ystod Oedran: 4-10

Mae gwersi nofio dwys yn gyrsiau byr, cryno gyda’r bwriad o gyflymu’r broses ddysgu i nofwyr.

Dyddiadau a Lleoliadau

Llun 27 Hydref - Gwe 31 Hydref

Canolfan Hamdden Abergele
Ton 1 a 2: 10:10am, 10:45am, 11:20am
Ton 3: 10:45am, 11:20am
Ton 4 a 5: 10:10am

Canolfan Hamdden Colwyn
Ton 1 a 2: 9:00am, 9:30am

Canolfan Nofio Llandudno
Ton 1 a 2/Ton 3: 10:10am, 10:45am, 11.20am
Ton 4 a 5: 10:50am, 11:25am
Ton 6 a 7: 10:00am

Cost: £24.50 (bod dydd - 30muns)

Archebu lle: 0300 456 95 25

Llun o Achubwyr Bywyd Dibrofiad

Gwersi Dwys ar gyfer Achubwyr Bywyd Dibrofiad

Ystod Oedran: 8-12 oed (Ton 6+)

Mae ein rhaglen yn cynnig y cyfle cyntaf i archwilio diogelwch yn y dŵr, gan fagu annibyniaeth a hyder yn raddol a dysgu sgiliau bywyd hanfodol ar yr un pryd.

Dyddiadau a Lleoliadau

Canolfan Hamdden Colwyn
Llun 27 Hydref - Gwe 31 Hydref
9:00am - 10:00am bob dydd

Mae'r rhaglen Achubwr Bywyd Dibrofiad yn gynllun gwobr diogelwch dŵr llawn hwyl a chyffrous.

Cost: £25

Archebu lle: 0300 456 95 25

Llun o fachgen yn chwarae pêl-droed

Sesiwn Pêl-droed Galw Heibio i Blant Iau

Ystod Oedran: 11-15

Man diogel i chwarae gyda ffrindiau dros hanner tymor, sesiynau anffurfiol.

Dyddiadau a Lleoliadau

Canolfan Hamdden Colwyn

  • Maw 28 Hydref: 11am - 12pm 
  • Iau 30 Hydref: 11am - 12pm 

Canolfan Hamdden Abergele 

  • Mer 29 Hydref: 11am - 12pm

Darperir yr holl offer

Cost: Wedi’i gynnwys yn yr Aelodaeth Iau neu talu wrth fynd am: £3

Archebwch ar Ap Ffit Conwy
Llun o blant yn chwarae badminton

Chwaraeon Raced Cymysg i Blant Iau

Ystod Oedran: 11-15

Dewch i geisio gwahanol fathau o chwaraeon raced (badminton, pickleball a thennis byr).

Dyddiadau a Lleoliadau

Canolfan Tennis James Alexander Barr

  • Maw 28 Hydref: 1pm - 2pm
  • Iau 30 Hydref: 1pm - 2pm

Canolfan Hamdden Abergele

  • Mer 29 Hydref: 1pm - 2pm

Darperir yr holl offer

Cost: Wedi’i gynnwys yn yr Aelodaeth Iau neu talu wrth fynd am £5

Archebwch ar Ap Ffit Conwy
Llun o bwysau tegell a champfa

Clwb Codi Pwysau Ieuenctid

Ystod Oedran: 11-15

Bydd ein hyfforddwyr profiadol yn darparu rhaglenni hyfforddi wedi’u teilwra sy’n canolbwyntio ar dechnegau codi, diogelwch a ffitrwydd corfforol.

Dyddiadau a Lleoliadau

Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy 

  • Llun 27 Oct a Mer 29 Hydref: 3:30pm - 4:15pm

Canolfan Hamdden Creuddyn 

  • Maw 28 Hydref & Iau 30 Hydref: 3:30pm - 4:15pm

Cost: Wedi’i gynnwys yn yr Aelodaeth Iau neu talu wrth fynd am: £5

Archebwch ar Ap Ffit Conwy
Llun o fachgen ar beiriant rhwyfo

Hyrox Iau

Ystod Oedran: 11-15

Bydd cyfranogwyr yn gweithio ar wella eu cryfder, cyflymder, cydsymudiad a stamina trwy ymarferion wedi’u hysbrydoli gan ddigwyddiadau Hyrox.

Dyddiadau a Lleoliadau

Canolfan Hamdden Colwyn

  • Llun 27 Hydref a Mer 29 Hydref: 3:30pm - 4:15pm 

Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

  • Llun 27 Hydref a Mer 29 Hydref: 4pm - 4:45pm

Cost: Wedi’i gynnwys yn yr Aelodaeth Iau neu talu wrth fynd am: £5

Archebwch ar Ap Ffit Conwy
Llun o fachgen yn codi dymbelau

Cryfder Iau

Ystod Oedran: 11-15

Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i ddefnyddio barbwysau, dymbelau, bandiau gwrthiant ac ymarferion pwysau’r corff yn ddiogel i ddatblygu cryfder sylfaenol a gwella ffitrwydd cyffredinol.

Dyddiadau a Lleoliadau

Canolfan Hamdden Colwyn

  • Maw 28 Hydref a Iau 30 Hydref: 3:30pm - 4:15pm 

Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno

  • Maw 28 Hydref a Iau 30 Hydref: 4pm - 4:45pm

Cost: Wedi’i gynnwys yn yr Aelodaeth Iau neu talu wrth fynd am: £5

Archebwch ar Ap Ffit Conwy
Llun o ddosbarth Boxffit iau

Boxffit Iau

Ystod Oedran: 11-15

Mae BoxFfit yn ymarfer corff cardio egnïol sy’n ymgorffori gwaith pad, hyfforddiant pwysau, cyflyru ac ymarfer cylchol gweithredol sydd wedi’i ddylanwadu’n drwm gan focsio.

Dyddiadau a Lleoliadau

Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno 

  • Gwe 31 Hydref:  4:30pm - 5:30pm 

Cost: Wedi’i gynnwys yn yr Aelodaeth Iau neu talu wrth fynd am: £5

Archebwch ar Ap Ffit Conwy
Llun o bwysau dwylo

Dosbarthiadau Ffitrwydd i Deuluoedd: Abs

Ystod Oedran: Plant 8 - 11 oed ac oedolyn

NEWYDD!

Dyddiadau a Lleoliadau

Canolfan Hamdden Colwyn

Mawrth 28 Hydref 16:45pm - 17:15pm

Arafwch a mwynhewch sesiwn gyfartal o gryfder craidd ac ymestyn dan arweiniad. Gall rhieni a phlant weithio gyda’i gilydd i wella osgo, hyblygrwydd a chydbwysedd tra’n dysgu gwerth adfer a symudiad. Dosbarth tawel, ystyrlon sy’n gadael y teulu cyfan wedi’u canoli ac yn teimlo’n ffres.

** DOSBARTHIADAU RHAGFLAS AR GYFER HANNER TYMOR MIS HYDREF **

Cost: Oedolion: Wedi ei gynnwys ym mhris aelodaeth neu dalu wrth fynd | Plant: £2.00 (pris cyfnod prawf)

Archebu lle: 0300 456 95 25

Llun o kettlebells

Dosbarthiadau Ffitrwydd i Deuluoedd: HIIT

Ystod Oedran: Plant 8 - 11 oed ac oedolyn

NEWYDD!

Dyddiadau a Lleoliadau

Canolfan Hamdden Colwyn

Mercher 29 Hydref 17:00pm - 17:45pm

Byddwch yn barod am ymarfer corff egnïol y gall y teulu cyfan ei wynebu gyda’i gilydd! Drwy ddefnyddio ymarferion cardio, cryfder a phwysau’r corff am gyfnodau byr, mae’r dosbarth yma’n ysgogi rhieni a phlant drwy egwyliau hwyliog sy’n cael eu hamseru. Mae’n ffordd wych o losgi egni, magu ffitrwydd a chefnogi ei gilydd fel tîm.

** DOSBARTHIADAU RHAGFLAS AR GYFER HANNER TYMOR MIS HYDREF **

Cost: Oedolion: Wedi ei gynnwys ym mhris aelodaeth neu dalu wrth fynd | Plant: £2.00 (pris cyfnod prawf)

Archebu lle: 0300 456 95 25

Llun o boxffit

Dosbarthiadau Ffitrwydd i Deuluoedd: BoxFfit

Ystod Oedran: Plant 8 - 11 oed ac oedolyn

NEWYDD!

Dyddiadau a Lleoliadau

Canolfan Hamdden Colwyn

Iau 30 Hydref 17:00pm - 17:45pm

Symudwch o orsaf i orsaf a rhowch gynnig ar gymysgedd o ddriliau wedi’u hysgogi gan focsio a heriau ymarfer cylchol. Bydd rhieni a phlant yn dyrnu, neidio ac yn gwthio eu ffordd drwy rowndiau byrrach o weithgareddau gan ddysgu sgiliau newydd tra’n gweithio gyda’i gilydd. Sesiwn hwyliog, gyflym sydd yn magu cryfder, cydsymudiad, a hyder i’r teulu cyfan.

** DOSBARTHIADAU RHAGFLAS AR GYFER HANNER TYMOR MIS HYDREF **

Cost: Oedolion: Wedi ei gynnwys ym mhris aelodaeth neu dalu wrth fynd | Plant: £2.00 (pris cyfnod prawf)

Archebu lle: 0300 456 95 25

Llun o blant yn gwenu

Sesiynau Chwarae Allan

Ystod Oedran: Mae croeso i bob oedran, ond mae’n rhaid i blant dan 5 oed fod gydag oedolyn

Ymunwch â’r tîm chwarae i fwynhau eich hoff gemau, a rhywfaint o hwyl Calan Gaeaf arswydus hefyd. Gwisgwch ddillad nad ydych yn meindio eu baeddu.

Dyddiadau a Lleoliadau

Mawrth 28 Hydref
10:30 - 12:00 Bryn Cadno, Ucheldir Colwyn (LL29 6DW)
13:30 - 15:00 Parc Clwyd, Bae Kinmel (LL18 5EJ)

Mercher 29 Hydref
10:30 - 12:00 Church Road, Llandrillo yn Rhos (LL28 4DJ)
13:30 - 15:00 Parc Eirias, Bae Colwyn (LL29 8HF)

Iau 30 Hydref
10:30 - 12:00 Trinity Avenue, Llandudno (LL30 2TQ)
13:30 - 15:00 Tan Lan, Hen Golwyn (LL29 9BB)

Gwener 31 Hydref
10:30 - 12:00 Maes Chwarae, Llanfairfechan (LL22 0DA)
13:30 - 15:00 Min Y Don, Hen Golwyn (LL29 9SD)

 

Cost: Am ddim

Nid oes angen cadw lle, dewch i ymuno â ni!

Llun o bwll tân

Sesiynau Chwarae Coedwig

Ystod Oedran: Mae croeso i bob oedran, ond mae’n rhaid i blant dan 5 oed fod gydag oedolyn.

Ymunwch â’r tîm chwarae ar gyfer eu sesiynau chwarae teuluol mewn coetiroedd yng Nghonwy. Bydd gennym amrywiaeth o orsafoedd gyda chrefftau, coginio ar y tân, gwneud cuddfan gydag offer a gwaith coed, a gweithgareddau Calan Gaeaf arswydus.

Dyddiadau a Lleoliadau

Llun 27 Hydref
14:30 - 16:00 - Coed Bodlondeb, Conwy (LL32 8DH) oed 5+

Mawrth 28 Hydref
11:30 - 13:00 - Marl Woods, Cyffordd Llandudno (LL31 9JA) oed 5+

14:30 - 16:00 - Parc Plas Mawr, Penmaenmawr (LL34 6JA)* 

Mercher 29 Hydref
11:30 - 13:00 - Cae Llan, Betws Y Coed, (LL24 0BL)*

*Yn addas ar gyfer plant iau dan 5 oed.

Cost: Am ddim

Nid oes angen cadw lle, dewch i ymuno â ni!

end grid