Strafagansa Chwaraeon Traeth Porth Eirias 2024
Trefnodd tîm Datblygu Hamdden Ffit Conwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Strafagansa Chwaraeon Traeth Porth Eirias fis diwethaf.
Cafodd dros 250 o blant a’u teuluoedd ddiwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan.
Mae’r tîm datblygu hamdden wedi bod yn trefnu’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar draeth Bae Colwyn ers 2016. Roedd yn ddigwyddiad poblogaidd iawn ar ddiwrnod braf.
Cafwyd diwrnod llawn gweithgareddau i annog plant i gadw’n iach ac yn heini. Roedd ystod o chwaraeon ar gael er mwyn amlygu’r holl gyfleoedd sydd ar gael yng Nghonwy.
Roedd y chwaraeon yn cynnwys: beicio, golff, rownderi, pêl-foli, criced, hoci, boccia, pêl-fasged cadair olwyn, yn ogystal â heriau a sesiynau ffitrwydd gan y timau Nofio Diogel a Datblygu Chwarae.
Meddai Caroline Jones, Rheolwr Datblygu Hamdden:
“Roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn, gyda nifer o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau rhad ac am ddim.
“Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda nifer o bobl yn nodi eu bod wedi cael diwrnod hyfryd.
“Gobeithiwn fod pawb wedi mwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau a’u bod wedi cael eu hysgogi i gymryd rhan mewn clybiau cymunedol neu’r rhaglenni yr ydym yn eu darparu ar draws y sir, megis Golff Cymru, Criced Cymru, a Chlwb Hoci Eirias a ymunodd â ni ar y diwrnod.”
I ddarganfod mwy am chwaraeon yn ardal Conwy, ymwelwch â'r wefan Chwaraeon Conwy sy’n darparu cyfeiriadur o glybiau lleol.