Title

Text
cy Newyddion Gwasanaethau 'Health Key' Newydd ar gyfer Aelodau Premiwm

Gwasanaethau 'Health Key' Newydd ar gyfer Aelodau Premiwm

Mae Ffit Conwy yn parhau i arwain y ffordd wrth hybu iechyd a lles ar draws Sir Conwy, gan gynnig mynediad i breswylwyr i 8 campfa, 4 pwll nofio a mwy na 200 o ddosbarthiadau ffitrwydd bob wythnos.

Yn 2025, mae’r gwasanaeth wedi ymestyn eisoes wrth lansio campfa newydd sbon yn Ysgol y Creuddyn a buddsoddi mewn beiciau dan do o’r radd flaenaf er mwyn gwella’r dosbarthiadau beicio grŵp.

Rŵan, mae Ffit Conwy yn falch o gyhoeddi partneriaeth newydd gyda HealthKey, gan gynnig mwy fyth o werth i’r Aelodaeth Bremiwm. Bydd aelodau’n elwa o fynediad at bedwar gwasanaeth iechyd a lles ychwanegol:

  • Apwyntiadau meddyg teulu ar-lein
  • Chwe sesiwn gwnsela bob blwyddyn
  • Ffisiotherapi ar-lein ar gyfer iechyd cyhyrysgerbydol 
  • Cyngor arbenigol am faeth, adborth ac adnoddau i gefnogi arferion iach hirdymor

Mae’r Aelodaeth Bremiwm yn cynnwys:

  • Gostyngiadau arbennig trwy Fuddion Premiwm Ffit Conwy 
  • Blaenoriaeth wrth archebu 7 diwrnod o flaen llaw 
  • Mynediad am ddim i ddosbarthiadau poblogaidd fel Hyrox a Gravity

Mae hyn i gyd ar gael am ddim ond £50 y mis, a gall Aelodau Safonol presennol uwchraddio am £10 ychwanegol y mis.

Gallwch gael mynediad at HealthKey trwy’r platfform Endurance Rewards. Angen cymorth? Cysylltwch â’n tîm ar hamdden.leisure@conwy.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am aelodaeth Ffit Conwy, cliciwch yma neu ffoniwch 0300 456 95 25.