Gwobrau Chwaraeon Conwy - Enwebiadau yn agor
![Picture of Sports Awards Event Winner 2024]()
Mae’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Conwy 2025 ar agor
Mae Sir Conwy yn gartref i dalent eithriadol, gyda chystadleuwyr yn gwneud argraff ar lwyfannau cenedlaethol, rhyngwladol a hyd yn oed ar draws y byd. Mae’r digwyddiad mawreddog hwn, a gynhelir bob blwyddyn yn Venue Cymru, prif theatr a lleoliad cynadledda Conwy, yn ddathliad go iawn o ymroddiad, angerdd a chyrhaeddiad mewn chwaraeon.
Am dros 26 mlynedd, mae gwasanaethau hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi trefnu Gwobrau Chwaraeon Conwy, a luniwyd i gydnabod ac anrhydeddu pobl dalentog, clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn y byd chwaraeon yng Nghonwy.
Meddai Caroline Jones, Rheolwr Datblygu Hamdden Ffit Conwy:
“O sêr ifanc y dyfodol i gystadleuwyr profiadol, mae’r gwobrau hyn yn dathlu’r rhai sy’n gwthio ffiniau rhagoriaeth yn eu camp ddewisol, yn ogystal â’r unigolion ymroddedig sy’n gweithio’n ddiflino y tu ôl i’r llenni i gefnogi clybiau ac athletwyr o un wythnos i’r llall.
“Mae’n ddigwyddiad gwych a gynhelir yn Arena Venue Cymru, sy’n dod â thros 400 o westeion ynghyd, gan gynnwys athletwyr, noddwyr, a swyddogion gweithredol y Cyngor. Mae 12 categori i gyd, a chyflwynir gwobr anrhydeddus i’r enillydd ar y llwyfan.”
Dyma’r categorïau:
- Athletwr Iau y Flwyddyn
- Athletwraig Iau y Flwyddyn
- Tîm Chwaraeon Iau
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
- Gwobr Llwyddiant Arbennig
- Athletwr Hŷn y Flwyddyn
- Athletwraig Hŷn y Flwyddyn
- Tîm Chwaraeon Hŷn
- Hyfforddwr y Flwyddyn
- Cyfraniad i Chwaraeon
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn
Cynhelir y digwyddiad, a ariannir yn rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ddydd Gwener, 21 Tachwedd 2025 am 7:30pm yn Venue Cymru, Llandudno.
I enwebu, ymwelwch â Gwobrau Chwaraeon 2025 a chyflwynwch yr enwebiad erbyn 19 Medi.