Title

Text
cy Newyddion Arolwg Adnewyddu'r Gampfa 2025
start content

Arolwg Adnewyddu'r Gampfa 2025

 

Dweud eich dweud!

Fel un o aelodau gwerthfawr Ffit Conwy, mae eich barn yn hynod bwysig i ni.

Rydym wrthi’n meddwl am ffyrdd o ddatblygu ein cyfleusterau ffitrwydd ymhellach. Un elfen dan ystyriaeth yw dyluniad a chyfarpar y campfeydd yn y mannau canlynol:

  • Canolfan Hamdden Abergele
  • Hwb Yr Hen Ysgol, Llanrwst 
  • Canolfan Nofio Llandudno

Hoffem greu man hyfforddi sy’n gweithio’n well. 
Byddai hyn yn cynnwys:

  • cael gwared â’r peiriannau ymwrthiant sefydlog a chynnig gwell dewis o ddymbelau, pwysau tegell a bagiau pwysau, ynghyd â rheseli codi. . 
  • tychwanegu cyfarpar fel beiciau aer, peiriannau rhedeg crwm a pheiriannau sgïo. (Byddai peiriannau cardio yn dal i fod yn rhan allweddol o’r gampfa, ond gan wyro oddi wrth y peiriannau rhedeg a’r beiciau llonydd traddodiadol)

Mae’r lluniau isod yn rhoi syniad i chi o’r math o gyfleuster rydym ni’n ei ystyried ar hyn o bryd yn y safleoedd hyn, gan geisio cynnig mannau hyfforddi sy’n gweithio’n well.  

Mae eich barn chi’n bwysig i ni

Mae’n hynod bwysig i ni ein bod yn cael clywed beth rydych chi’n ei feddwl am hyn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Fyddech chi cystal â rhannu eich barn am y syniadau hyn drwy lenwi arolwg byr?
Dyddiad cau’r arolwg: Dydd Mawrth 30 Medi 2025

Gwnewch yr arolwg

 

 

end content