top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Newyddion "Mae campfa leol Ffit Conwy yn achubiaeth i mi"
start content

"Mae campfa leol Ffit Conwy yn achubiaeth i mi"

nfd-header-cy

terry-price-m4
Mae hi’n Ddiwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol ar 18 Medi, sef dathliad mwyaf y DU o iechyd a ffitrwydd, ac mae’r thema eleni yn canolbwyntio ar ‘Eich Iechyd am Oes’.

Yn achos Terry Price o Ddeganwy, mae campfa Ffit Conwy wedi dod yn rhan o’i drefn wythnosol er mwyn byw bywyd iachach.

Yn dilyn sawl braw o ran ei iechyd, mae Terry bellach yn mwynhau mynd i’r gampfa, ond hefyd yn ei ystyried fel ei achubiaeth. Cafodd Terry, 74, ddiagnosis o angina yn 2003, a chyfres o broblemau ar y galon a llawdriniaethau yn dilyn hynny. Yn fwy diweddar, cafodd strôc yn 2016.

Fel aelod o Ffit Conwy, mae’n mynd i gampfa Canolfan Hamdden Colwyn ddwywaith yr wythnos.

Meddai Terry, wrth siarad ag angerdd am sut y bu i ymarfer corff a’i fanteision dirifedi newid ei fywyd:

“Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, rwyf wedi bod yn byw â sawl cyflwr ar y galon, wedi cael gosod naw stent, trawiad ar y galon, llawdriniaeth ddargyfeiriol pedwarplyg ar y galon ac yna strôc.

“Yn dilyn fy strôc, cefais sesiwn gynefino drwy atgyfeiriad yn y gampfa, er mwyn helpu gyda gwella. Dydw i heb edrych yn ôl ers hynny. Rwy’n mynd i’r gampfa yng Ngholwyn unwaith neu ddwy yr wythnos am oddeutu awr a hanner bob tro. Mae’r cyfleusterau a’r offer yn wych ac mae aelodau staff y ganolfan yn hynod gyfeillgar a chymwynasgar. Nid lle i godi ofn arnoch mohono.

“Rwyf hefyd wedi annog fy ngwraig i ymuno â mi, ac rydym bellach yn mwynhau mynd gyda’n gilydd. Dyma sut y bydda i’n meddwl am fynd i’r gampfa- os na fydda i’n mynd i’r gampfa, bydd hi’n ddiwedd arna i!”

Mae gan wasanaeth Ffit Conwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, saith campfa, pedwar pwll nofio a mwy na 200 o ddosbarthiadau ffitrwydd, sy’n cael eu cynnal mewn deg canolfan hamdden ledled Sir Conwy.

Meddai Mark Orme, Rheolwr Hamdden Ffitrwydd Ffit Conwy:

“Ni fu erioed cystal tystiolaeth bod symud ein cyrff yn hanfodol i ni o ran teimlo’n dda, yn feddyliol ac yn gorfforol. Heddiw, ledled y DU, mae ymarfer corff yn helpu miliynau o bobl sy’n byw â chanser, diabetes math 2, poen ysgerbydol a chyhyrol, iselder, gorbryder a nifer o gyflyrau eraill.

“Mae Ffit Conwy yn falch o fod â chyfleusterau gwych, fel y gall pawb fod yn egnïol. Mae ein tîm yno i ddarparu cymorth i bobl sydd am gymryd camau bach tuag at ffordd o fyw a all ddiogelu a gwella eu hiechyd.”

Mae Aelodaeth Gynhwysol yn cynnig gostyngiad o 40% i ddinasyddion hŷn, sy’n cynnwys mynediad i’r holl ganolfannau hamdden a phyllau yng Nghonwy, ac mae nifer o’r sesiynau wedi’u teilwra ar gyfer oedolion hŷn gan dîm ffitrwydd profiadol iawn.

end content