Dosbarthiadau Ffitrwydd Newydd i Blant Iau yn dod i Ffit Conwy!
Mae Ffit Conwy yn cyflwyno Dosbarthiadau Ffitrwydd i Blant Iau dan arweiniad Hyfforddwr, wedi’u teilwra’n benodol i bobl ifanc 11-15 oed.
Canolfan Hamdden Colwyn: Dydd Llun i ddydd Gwener, 3.30pm – 4.30pm (yn dechrau ddydd Llun 26 Chwefror
- Dydd Llun: BoxFfit
- Dydd Mawrth: FfitCon
- Dydd Mercher: DanceFfit
- Dydd Iau: FfitCon
- Dydd Gwener: SpinFfit
Mae’r dosbarthiadau hyn am gyfnod prawf o bedair wythnos hyd at 22/03/24 – os ydych chi’n eu mwynhau, rhowch wybod i ni!
Treial yw hwn ac rydym yn gobeithio ymestyn y rhaglen ymhellach i ganolfannau eraill a gallu cynnig amseroedd gwahanol yn y dyfodol, ar gyfer mwy o blant ar draws y sir.
- £17.35 am Aelodaeth Iau (drwy daliadau Debyd Uniongyrchol Misol - Mae pob dosbarth wedi’i gynnwys yn yr aelodaeth Iau)
- £27.35 am aelodaeth un mis (taliad untro)
- £4.15 y sesiwn
Gallwch archebu lle ar Ap Ffit Conwy
Rhif Ffôn: 0300 456 95 25
E-bost: hamdden.leisure@conwy.gov.uk