top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Newyddion Cyrtiau Tennis Parc Bodlondeb - Diweddariad - Ionawr 2024
start content

Cyrtiau Tennis Parc Bodlondeb - Diweddariad - Ionawr 2024

Cwblhau gwaith trawsnewid cyrtiau tennis Parc Bodlondeb yn y Gwanwyn.

Mae’r cyrtiau wedi bod ar gau er mwyn gwneud gwaith ailwampio ers sawl mis fel rhan o fenter yr LTA lle mae’r cyrtiau tennis yn cael trawsnewidiad gwerth £108,000.

Er bod oedi wedi bod i’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y contractwyr Blakedown, unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd y gwaith ailwampio yn sicrhau bod y cyrtiau yn parhau i fod yn ased gwerthfawr i drigolion Conwy am flynyddoedd i ddod.

Mae’r buddsoddiad gwerth £108,000 yn dod fel rhan o fuddsoddiad gwerth £30miliwn gan Lywodraeth y DU a Sefydliad Tennis yr LTA, a ddarperir gan yr LTA, i ailwampio miloedd o gyrtiau tennis cyhoeddus ar draws Prydain Fawr, ac agor y gamp i lawer mwy o bobl.

Mae dros 1,500 o gyrtiau wedi’u cwblhau trwy’r prosiect hyd yn hyn, lle mae nifer o gyrtiau tennis presennol mewn parciau sydd mewn cyflwr gwael neu anaddas yn cael eu hadfywio er budd cymunedau trwy waith adnewyddu, a gwella hygyrchedd cyrtiau gyda thechnoleg mynediad drwy gatiau a systemau archebu newydd.
 
Ochr yn ochr â’r buddsoddiad, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd yn gweithio gyda’r LTA i ddarparu ystod o weithgareddau ar gyrtiau Bodlondeb er budd cymunedau.

Bydd hyn yn cynnwys darparu sesiynau tennis wythnosol yn rhad ac am ddim mewn parciau i bawb o bob oed, lefel chwarae a phrofiad lle darparir offer, gan olygu na fydd yn rhaid i bobl gael rhywun i chwarae â nhw neu eu raced eu hunain.  Bydd Cynghreiriau Tennis Lleol hefyd yn darparu cyfleoedd cyfeillgar a chymdeithasol i gadw’n heini trwy gystadlaethau lleol.

Unwaith y byddant wedi ail-agor, bydd y cyrtiau ym mharc Bodlondeb ar gael i’w defnyddio yn rhad ac am ddim rhwng 7am a 9am, a rhwng 1pm a 2pm bob dydd.  Codir tâl o £4 yr awr am gwrt ar adegau eraill. Bydd modd archebu cyrtiau ar-lein drwy fynd ar wefan Chwarae Tennis yr LTA. Bydd Tocyn Tennis Blynyddol ar gael am £39 yr aelwyd y flwyddyn, gan sicrhau bod teuluoedd yn gallu mwynhau’r cyrtiau am lai na £1 y gêm yr wythnos.

Mae’r cyrtiau ym mharc Llandrillo-yn-Rhos, parc Min y Don a pharc Pentre Mawr yn parhau i fod ar agor ac yn rhad ac am ddim i’w defnyddio, ond bydd modd archebu lle arnynt yn fuan drwy system Chwarae Tennis yr LTA fel bod chwaraewyr yn gallu canfod ac archebu cwrt i sicrhau argaeledd.

Wrth siarad am yr oedi i waith ailwampio’r cyrtiau tennis, dywedodd lefarydd ar ran contractwyr y cyrtiau, Blakedown:

"Rydym yn gwerthfawrogi’r amynedd a ddangoswyd gan drigolion Conwy ac yn ymddiheuro am yr oedi parhaus i gwblhau gwaith ailwampio’r cyrtiau tennis ym Mharc Bodlondeb."

"Er y cawsom oedi nad oedd modd ei osgoi wrth ddarparu’r prosiect yn yr haf oherwydd y tywydd gwlyb, mae oedi pellach wedi bod o ganlyniad i faterion mewn perthynas â safonau technegol y gwaith ail-wynebu sydd wedi golygu nad yw wedi bod yn bosibl ail-agor y cyrtiau i’r cyhoedd ar hyn o bryd."

"Ein blaenoriaeth yw cyflawni’r canlyniadau gorau i drigolion fel bod modd defnyddio’r cyrtiau tennis gwych hyn drwy gydol y flwyddyn am flynyddoedd i ddod. Er mwyn darparu hyn byddwn yn ymgymryd â gwaith adfer pellach ar y cyrtiau gyda’r nod o gwblhau ac ail-agor y cyrtiau i chwaraewyr yn y Gwanwyn, 2024."


Dywedodd Julie Porter, Prif Swyddog Gweithredu yn yr LTA:

"Rydym yn falch o gael gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i wella eu cyfleusterau tennis mewn parciau a darparu mwy o gyfleoedd i unrhyw un godi raced a chadw’n heini.  Mae’r buddsoddiad hwn yn rhan o Brosiect Tennis mewn Parciau Llywodraeth y DU a’r LTA, a bydd yn golygu y bydd cyrtiau ar gael i bobl eu defnyddio am flynyddoedd i ddod.  Byddwn hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i sicrhau fod gan y gymuned leol ystod o gyfleoedd hygyrch i fynd ar gwrt, ac agor ein camp i lawer mwy o bobl."

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

"Rydym yn falch o sicrhau’r bartneriaeth hon gyda’r LTA a fydd yn helpu i ddarparu cyfleusterau tennis o ansawdd yn Sir Conwy. Unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau, bydd y cyfleusterau hyn yn wych i ddefnyddwyr; p’un ai eu bod yn bobl ifanc sy’n codi raced am y tro cyntaf ac yn rhoi cynnig arni, neu’n bobl sy’n brofiadol ac yn frwd dros chwarae tennis sy’n archebu gêm ar un o gyrtiau’r parc. Mae’n amcan pwysig i ni fel Cyngor ein bod yn darparu cyfleoedd chwaraeon ar bob lefel ac yn annog pobl i gadw’n heini."

Ar gyfer unrhyw ymholiadau gan y wasg yn ymwneud â’r LTA, cysylltwch â: Media@lta.org.uk

Gwybodaeth am yr LTA: Yr LTA yw Corff Llywodraethu Cenedlaethol tennis ar gyfer Prydain Fawr.  Rydym yma i lywodraethu a datblygu tennis, o gymryd rhan ar lawr gwlad i’r gêm broffesiynol. Ein gweledigaeth yw “Creu Mwy o Gyfleoedd Tennis” ac rydym yn benderfynol o ddatblygu tennis trwy ei wneud yn berthnasol, hygyrch, croesawgar a phleserus. Rydym yn gweithio gydag ysgolion, gwirfoddolwyr, hyfforddwyr a lleoliadau ar draws y wlad. Rydym hefyd yn cynrychioli diddordebau dros 1,000,000 o Aelodau, yn ddynion a merched, genethod a bechgyn, gan chwarae ar dros 23,000 o gyrtiau.

Am fwy o wybodaeth am yr LTA a thennis ym Mhrydain, ewch i www.lta.org.uk neu dilynwch ni ar Twitter @the_LTA.

end content