top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Newyddion Gŵyl Rygbi'n hwb economaidd i fusnesau Conwy
start content

Gŵyl Rygbi'n hwb economaidd i fusnesau Conwy

Mae timau merched o dan 18 oed - Cymru, Lloegr, Iwerddon, yr Alban, Yr Eidal a Ffrainc wedi chwarae mewn gŵyl wythnos o hyd dros wyliau’r Pasg yn Stadiwm CSM ym Mae Colwyn - y gyntaf o’i fath yng Nghymru.


Meddai’r Cyng Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

“Mae’n bleser gennym groesawu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i ferched o dan 18 oed i Stadiwm CSM y gwanwyn hwn.  Mae rygbi’n bwysig i economi’r rhanbarth ac yn ysbrydoli a datblygu talent yng Nghymru.  Mae hefyd yn cynnig diwrnod allan gwych i’n preswylwyr lleol.”


Mae’r budd economaidd oddi ar y cae yn hanfodol i fusnesau lleol Conwy gyda dros £300,000 yn cael ei wario ar lety, cludiant, arlwyaeth a gwasanaethau cefnogi ar gyfer yr ŵyl yn unig.

Dywedodd Charlotte a Rhys, perchnogion Gwesty Dunoon:

“Mae wedi bod yn bleser ac yn anrhydedd cynnig llety i dîm Ffrainc yn y Dunoon yr wythnos hon.  Am grŵp hynod o dalentog o athletwyr!  Mae fel bod disgleirdeb a dawn gyda phêl rygbi yn rhan gytundebol o fod yn Ffrancwr.  Byddem wrth ein bodd yn hawlio rhan fach o’r credyd am eu llwyddiant yr wythnos hon; rydym yn bendant wedi eu bwydo’n iawn.  Ond rydym yn amau ei fod yn ymwneud â’u sgil a’u hethig gwaith eu hunain.

“Da iawn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am gynnig llety i’r twrnamaint.  Mae wedi bod yn hwb aruthrol i ni yn ystod cyfnod heriol i’n sector.”


Mae Stadiwm CSM yn cael y budd o £700,000 o fuddsoddiad yn y cae sydd wedi ei wneud yn bosibl cynnal llety i’r digwyddiad hwn.  Mae timau Rygbi proffesiynol lleol RGC a’r Croesgadwyr yn chwarae eu gemau ar y cae ac mae natur y cae yn caniatáu i Wyliau Chwaraeon gael eu cynnal gyda defnydd dyddiol drwy gydol y flwyddyn - rhywbeth na fyddai’r wyneb blaenorol wedi ei gyflawni.

Meddai Julie Paterson, Cyfarwyddwr Rygbi - Rygbi’r Chwe Gwlad:

“Mae’r ŵyl yn llwyfan datblygu hynod bwysig i’n chwaraewyr, hyfforddwyr, staff cefnogi a swyddogion gemau.  Mae’n rhoi’r cyfle i ennill profiad gwerthfawr ar lefel ryngwladol, wrth gyflwyno ein hathletwyr ifanc gorau i wahanol ddiwylliannau a phrofiadau sy’n unigryw i’r gêm.”


I gael y wybodaeth ddiweddaraf am rygbi gan gynnwys digwyddiadau URC, tymor RGC a gemau’r Croesgadwyr sydd ar y gweill yn Stadiwm CSM, ymwelwch â www.visitconwy.org.uk neu dilynwch @DewchiGonwy ar Facebook, X ac/neu Instagram.

end content