top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Newyddion Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Chwaraeon Conwy 2023
start content

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Chwaraeon Conwy 2023



Dyddiad: 08 Rhagfyr 2023

Cafodd talent chwaraeon lleol o bob rhan o sir Conwy ei ddathlu mewn seremoni wobrwyo arbennig.

Dyma’r ddegfed flwyddyn ar hugain i Wobrau Chwaraeon Conwy gael ei gynnal ac eleni, cafodd ei gynnal yn Venue Cymru, Llandudno ar 24 Tachwedd i gydnabod ac anrhydeddu unigolion talentog y byd chwaraeon, clybiau chwaraeon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr o’r sir.

Roedd dros 320 o bobl o amrywiaeth o gefndiroedd chwaraeon yn bresennol yn y digwyddiad, y cafodd ei noddi’n garedig iawn gan Chwaraeon Conwy.

Gwnaeth yr Athletwraig Brydeinig ac enillydd medal efydd Gemau Olympaidd y Gaeaf, Laura Deas, gyflwyno’r gwobrau i’r enillwyr haeddiannol ochr yn ochr â’r cyhoeddwr a sylwebydd chwaraeon proffesiynol, Matt Ward a oedd y cyflwynydd.

Ymhlith yr enillwyr yr oedd y sgïwr deuddeg oed, Xavier Poynton, a enillodd wobr yr Athletwr Iau. Mae’n rhagori mewn rasio slalom, a chafodd ei ddewis ar gyfer tîm dan 14 oed Prydain Fawr ac yr oedd yn rhan o’r tîm buddugol ym mhencampwriaethau Prydain yn Tignes ym mis Ebrill.

Enillodd Ysgol Y Gogarth yn Llandudno wobr Ysgol y Flwyddyn yng ngwobrau eleni hefyd am eu hamrywiaeth eang o weithgareddau iechyd a lles cynhwysol yn yr ysgol ac yn allgyrsiol.

Roedd cyfanswm o ddeuddeg categori, gan gynnwys y wobr Llwyddiant Arbennig a gyflwynwyd i aelodau Clwb Hwylio Conwy, Richard a Petra Haig sy’n goresgyn nifer o heriau i gwblhau mordaith yr haf hwn ar eu cwch hwylio pedwar deg chwech troedfedd.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

"Llongyfarchiadau enfawr i bob enillydd ac i bawb a oedd yn agos i’r brig yng Ngwobrau Chwaraeon Conwy eleni. Roedd yn fraint cael clywed am waith caled ac ymroddiad pob un o’r enwebeion. Roedd yn ddathliad hyfryd o’r rhagoriaeth mewn chwaraeon yn Sir Conwy."

"Gobeithiwn y bydd y Gwobrau Chwaraeon yn parhau i ysbrydoli ac ysgogi unigolion mwyaf dawnus Conwy yn eu camp o’u dewis. Rydym ni’n cydnabod yr athletwyr, yn ogystal â’u hyfforddwyr, eu timau, eu teuluoedd a’u noddwyr, sy’n ychwanegu at eu llwyddiant."

"Diolch yn arbennig i’n busnesau lleol a’r sefydliadau sydd, yn garedig iawn, wedi cefnogi’r gwobrau eleni. Ni fyddai’r digwyddiad hwn wedi bod yn bosibl hebddynt."


Cafodd gwobrau eleni eu cefnogi gan Chwaraeon Conwy, Route Media, Achieve More Training, Exile Sportswear, Camu i’r Copa, Gwasanaeth Addysg CBSC, Llandudno Kia, Evolution Bikes, Supertemps, Powlsons, Actif Gogledd Cymru, Ffit Conwy, CSM Security, a Maethu Cymru (Conwy).

Enillwyr 2023 yw:

  • Athletwr Iau y Flwyddyn: Xavier Poynton
  • Athletwraig Iau y Flwyddyn: Morgan Haerr
  • Tîm Chwaraeon Iau: ‘Super 9’s’ Criced Cymru Gogledd Cymru (MACS)
  • Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn: Polly Turner
  • Gwobr Llwyddiant Arbennig: Richard a Petra Haig
  • Athletwr Hŷn y Flwyddyn: Martin Green
  • Athletwraig Hŷn y Flwyddyn: Lea-Anne Bramwell
  • Tîm Chwaraeon Hŷn: XI Cyntaf Clwb Criced Bae Colwyn
  • Hyfforddwr y Flwyddyn: Richard Stock
  • Cyfraniad i Chwaraeon: Peter Hamer
  • Digwyddiad y Flwyddyn: Triathlon Sbrint Llanrwst


Y dyddiad sydd wedi’i bennu ar gyfer Gwobrau Chwaraeon y flwyddyn nesaf yw 22 Tachwedd 2024. Bydd enwebiadau ar gyfer y categorïau ar agor ym mis Medi.

Os ydych chi'n fusnes neu'n sefydliad lleol sydd â diddordeb mewn cefnogi'r digwyddiad trwy nawdd, cysylltwch â Caroline Jones drwy caroline.jones@conwy.gov.uk.

end content