Cymorth Cyntaf Achub Y Babi
Gall dilyn hyfforddiant Cymorth Cyntaf Babanod helpu i ddatblygu eich hyder fel rhiant, nain a thaid, neu ofalwr.
Dyddiadau cwrs Achub y Babi
- Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanrwst, Heol Watling, Llanrwst LL26 0LS - 7 Medi
- Tŷ Hapus, Ffordd Penrhyn, Llandudno LL30 1HB – 11 Hydref
- Bae Colwyn, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn LL29 7AZ - 16 Tachwedd
- Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanrwst, Heol Watling, Llanrwst LL26 0LS - 10 Ionawr
- Tŷ Hapus, Ffordd Penrhyn, Llandudno LL30 1HB - 7 Chwefror
- Bae Colwyn, Coed Pella, Conway Road, Bae Colwyn LL29 7AZ - 12 Mawrth
Bydd yr holl gyrsiau am 9.15 – 12.00
Yn ystod y cwrs 2 awr byddwch yn dysgu sgiliau achub bywyd:
- Sut i ddelio gyda babi sydd ddim yn ymateb (yn anadlu neu ddim yn anadlu) gan gynnwys technegau adfywio, anadlu achub a chywasgiad brest
- Camau i’w cymryd pan fydd rhywun yn tagu gan ddefnyddio doliau arbenigol
- Gwaedu a rhoi rhwymyn
- Llosgiadau a thriniaeth
- Tymheredd uwch gan gynnwys y gwahaniaethu rhwng Sepsis a llid yr ymennyddi gynnwys ffitiau gwres a beth i’w wneud nesaf
- Prif arwyddion a symptomau anaf pen a thriniaeth
- Byddwch yn cael cyfle i ddefnyddio doliau arbenigol sy’n rhoi adborth ar eich perfformiad.
Dysgu mewn awyrgylch hamddenol heb bwysau, rydym yn creu amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.
Gallwch ddod â'ch babi gyda chi i'r cwrs (os yw'ch plentyn hyd at chwe mis oed). Mae pob safle yn hygyrch ar gyfer pramiau ac mae cyfleusterau bwydo a newid ar gael.
Bydd ein swyddogion cymorth cyntaf a hyfforddwyd yn helaeth yn cyflwyno sesiwn 2 awr i grwpiau bach o rieni newydd a darpar rieni, neiniau a theidiau neu ofalwyr.
Mae llyfryn pediatreg llawn wedi ei gynnwys yn y pris gyda’r holl wybodaeth y byddwch ei hangen.
Cost: £20 y pen
Mwy o wybodaeth:
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu’r cwrs Cymorth Cyntaf Babanod, gallwch lenwi ein ffurflenni i gofrestru eich diddordeb, neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod:
Rhif ffôn: 01492 575900
E-bost: hamdden.leisure@conwy.gov.uk
Telerau ac Amodau Safonol (PDF)