top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Cartref Cyrsiau Hyfforddi Cymhwyster Goruchwyliwr Pwll Cenedlaethol
start content

Cymhwyster Goruchwyliwr Pwll Cenedlaethol

Mae’r Cymhwyster Goruchwyliwr Pwll Cenedlaethol (NPSQ) yn gwrs dau ddiwrnod ar gyfer staff sy’n gyfrifol am oruchwylio achubwyr bywydau a rheoli iechyd a diogelwch hanfodol mewn canolfannau hamdden a phyllau nofio.

Mae’n addas ar gyfer achubwyr bywydau sy’n dymuno datblygu yn eu gyrfa neu gyflogeion sy’n dymuno uwchsgilio eu staff i reoli achubwyr bywydau, aelodau tîm ac iechyd a diogelwch hanfodol.

Ynglŷn â’r Cymhwyster Goruchwyliwr Pwll Cenedlaethol (NPSQ)

  • Bydd y cwrs yn ymestyn eich dealltwriaeth o bwrpas Asesiadau Risg, Gweithdrefnau Gweithredu Diogelwch mewn
  • Pyllau Nofio a Systemau Gwaith Diogel sy’n sicrhau amgylchedd gwaith diogel i staff a chwsmeriaid. 
  • Bydd yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol i chi o’r gyfraith a chanllawiau diwydiannol y mae gofyn i chi a’ch tîm gydymffurfio â hwy. 
  • Bydd yn eich helpu i ddeall sut i reoli eich tîm a darparu adborth. 
    Mae’n gwrs delfrydol ar gyfer Goruchwylwyr Hamdden neu Ddirprwy Reolwyr newydd. 

Mae’r NPSQ yn addas ar gyfer Achubwyr Bywydau sy’n dymuno datblygu yn eu gyrfa neu gyflogeion sy’n dymuno uwchsgilio eu staff i reoli achubwyr bywydau, aelodau tîm ac iechyd a diogelwch hanfodol. 

Gellir llunio cyrsiau wedi’u teilwra i weithwyr, sy’n golygu y gallai’r cwrs fod yn benodol i sefydliad gan fanylu ar weithdrefnau a pholisïau. 

Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer unigolion sy’n 18 oed neu’n hŷn ac yn gyfrifol (p’un a yw hynny â thâl neu’n ddi-dâl/gwirfoddol) am reoli a goruchwylio amgylchedd pwll nofio. 

Darperir NPSQ gan ddefnyddio gweithdai, fideos canfod peryglon, trafodaethau yn seiliedig ar sefyllfaoedd ac astudiaethau achos. Bydd cyfranogwyr yn defnyddio llyfrau gwaith, yn cynnwys gwybodaeth allweddol am y fanyleb, i gwblhau tasgau, gweithgareddau a gwneud nodiadau i’w helpu unwaith y byddant yn dychwelyd i’r gweithle.


Adnewyddu

Gall deiliaid NPSQ adnewyddu eu cymhwyster o fewn cyfnod dilysrwydd eu cymhwyster presennol (fel sydd wedi’i nodi ar eu tystysgrif).

Mae RLSS UK yn argymell cwblhau cwrs gloywi, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, cyn adnewyddu’r cymhwyster. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw ddiweddariadau a diwygiadau i ganllawiau, cyfreithiau a rheoliadau cyfredol. 

 

Mwy o wybodaeth


Os hoffech ragor o wybodaeth am y cwrs, llenwch ein ffurflen ymholiad hyfforddiant, neu fel arall gallwch gysylltu ag aelod o'n tîm gan ddefnyddio'r manylion isod:

Rhif ffôn: 0300 456 95 25
E-bost: hamdden.leisure@conwy.gov.uk

Telerau ac Amodau Safonol (PDF)
end content