Hyfforddiant Gwaith Chwarae: Rhaglen Hyfforddiant Datblygiad Chwarae Conwy 2025-2026
Darperir yr holl hyfforddiant gan hyfforddwyr gwaith chwarae cymwys aphrofiadol.Mae’r holl hyfforddiant yn hwyliog a chwareus ac mae’r hyfforddwyr yngwneud popeth i wneud yn siŵr eu bod yn diwallu anghenion pob dysgwr. Cofiwchroi gwybod i ni am unrhyw beth all eich helpu i gymryd rhan yn yr hyfforddiant.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn neu os hoffech chi archebu lle, cysylltwch â datblyguhamdden@conwy.gov.uk.
Meddwl am y risgiau mewn chwarae
- Lleoliad: Canolbwynt Cymunedol, Porth Eirias, Bae Colwyn
- Dyddiad: 21 Mai 2025, 09:30am - 11:30am
Bydd y sesiwn yn archwilio sut allwn ni fel ymarferwyr ddarparu graddfa resymol o risg a her yn eu lleoliad trwy ddefnyddio dull gwaith chwarae. Bydd yn archwilio rhai o ddeddfwriaethau achanllawiau allweddol yn ogystal â rhai o’r damcaniaethau sy’nllywio ein hymarfer a’n helpu ni i ddatblygu darpariaeth sy’n canolbwyntio mwy ar y plentyn.
Bydd yn cynnwys asesiad risg dynamig a’r defnydd o asesiadau risg-mantais, yn ogystal ag enghreifftiau ymarferol o ran sut i ystyried y cydbwysedd iawn, wrth lynu at egwyddorion gwaith chwarae.
Conwy chwaraeus
- Lleoliad: Canolbwynt Cymunedol, Porth Eirias, Bae Colwyn
- Dyddiad: 22 Mai 2025, 18:00pm tan 20:00pm
Mae’r gweithdy hwn ar gyfer cynghorwyr tref, cymuned a sir, cymdeithasau tai, swyddogion Conwy Cynllunio a’r Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, ac unrhywun arall y mae ei swydd yn effeithio ar ofodau cymunedol.
Byddy gweithdy yn archwilio beth yw cymuned chwareus a sut gellireu creu yn defnyddio dyluniadau, gofodau ac agweddau.
Gwella llefydd ar gyfer chwarae
- Lleoliad: Canolbwynt Cymunedol, Porth Eirias, Bae Colwyn
- Dyddiad: 18 Mehefin 2025, 09:30am tan 12:30pm
Bydd y cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i wella eu hamgylchedd chwarae presennol trwy archwilio chwarae a hunanasesu.
Bydd y cwrs yn archwilio pwysigrwydd y cwricwlwm gwaith chwarae ac yn rhoi syniadau ac awgrymiadau ar sut i ddarparu mannau cyffrous, amrywiol a chyfoethog i blant a phobl ifanc chwarae.
Gwaith chwarae ymarferol
- Lleoliad: Canolbwynt Cymunedol, Porth Eirias, Bae Colwyn
- Dyddiad: 2 Gorffennaf 2025, 9:30am tan 12:30pm
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio sut i greu amgylchedd chwarae mwy cyfoethog. Byddwn yn gwneud hyn trwy feddwl yn ddwysam y cwricwlwm gwaith chwarae a sut allwn ei ddefnyddio felcanllaw i feddwl am syniadau chwareus, ac yn bwysicach, sutallent gael eu defnyddio yn ymarferol i wella gofod chwarae ymhellach.
Bydd hyn yn cynnwys rhannu syniadau ac yn bwysicach, torchi ein llewys, rhoi cynnig arni, gwneud pethau, achael hwyl, mewn sesiwn gynhwysfawr a chefnogol o rannu sgiliau
Tanau, cuddfannau a rhaffau
- Lleoliad: Canolbwynt Cymunedol, Porth Eirias, Bae Colwyn
- Dyddiad: 11 Medi 2025, 9:30am tan 12:30pm
Bydd y cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ystyried dulliau ymarferol i gynnwys yr amgylchedd naturiol / awyr agored yn chwarae plant.
Byddwn yn edrych ar sgiliau ymarferol syml sy’n cefnogi adeiladu yn yr awyr agored, yn cynnwys cyrsiau rhaffau, rhaffau tynn,siglenni coed a chreu cuddfannau. Byddwn hefyd yn edrych argynnwys tannau ar gyfer coginio ac archwilio – bydd hyn yn cynnwys coginio dros dân.
Byddwn yn edrych ar ffyrdd i gefnogi plant hŷn yn defnyddio cyfarpar a choed i’w helpu nhw i adeiladua chreu eu gofodau chwarae eu hunain. Yn olaf byddwn yn trafodsut i gydbwyso risgiau a manteision y mathau yma o gyfleoedd chwarae er mwyn rhoi cyfle i blant chwarae dan eu harweiniad eu hunain.
Bydd y cwrs hwn yn un ymarferol ac yn cael ei gynnal yn yr awyr agored – bydd disgwyl i chi chwarae beth bynnag fo’r tywydd!
Ymgyddiad a chwarae
- Lleoliad: Canolbwynt Cymunedol, Porth Eirias, Colwyn Bay
- Dyddiad: 8 Hydref 2025, 9:30am tan 12:30pm
Bydd y sesiwn yn archwilio ymddygiad sy’n heriol a’i ail-fframio trwy lens dull gwaith chwarae.
Byddwch yn archwilio cymwysiadau damcaniaethol ac ymarferol ac yn ystyried sut all ein dulliau a lefelau ymyrraeth ymestyn a gwella chwarae plant a phobl ifanc, a hefyd helpu ymarferwyr i deimlo’n fwy hyderus wrth ddelio ag ymddygiad sydd yn heriol.
Chwarae i bawb
- Lleoliad: Canolbwynt Cymunedol, Porth Eirias, Bae Colwyn
- Dyddiad: 12 Tachwedd 2025, 9:30am tan 12:30pm
Mae pob plentyn ac unigolyn ifanc angen chwarae. Os ydych yngweithio gyda nhw, byddwch yn siŵr o brofi eu hymddygiad chwarae cyffredin beth bynnag yw eich rôl neu leoliad.
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio sut all ddull gwaith chwarae gyd-fynd â gwaith ieuenctid ac i’r gwrthwyneb. Byddwn yn ystyried sut allwn wella’r cynnig chwarae mewn lleoliadau ieuenctid a chefnogi pobl ifanc yn well gyda materion a all godi yn eu bywydau.
Dyfarniad Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Chwarae
- Lleoliad: Canolbwynt Cymunedol, Porth Eirias, Bae Colwyn
- Dyddiad: 11 Gorffennaf 2025, 18 Medi 2025, 6 Tachwedd 2025, 20 Chwefror 2026 - bydd mwy o ddyddiadau yn hwyrach yn y flwyddyn, anfonwch e-bost at datblyguhamdden@conwy.gov.uk i gael mwy o wybodaeth
Mae’r Dyfarniad Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Chwarae yn gwrs rhagarweiniol gwych i waith chwarae ac mae’n cynnwys cyfuniad da o wybodaeth sy’n seiliedig ar ymarfer a theori.
Dyma’r cymhwyster lefel mynediad ar gyfer symud ymlaen at Dystysgrif Lefel 2 Agored Cymru, Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorion ar Waith.
Dewch inni siarad am chwarae
- Lleoliad: Canolbwynt Cymunedol, Porth Eirias, Bae Colwyn
- Dyddiad: 11 Gorffennaf 2025, 18 Medi 2025, 6 Tachwedd 2025, 20 Chwefror 2026
Mae Pam chwarae? yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth o beth yw chwarae a pham ei fod yn bwysig. Mae’r sesiwn hon wedi ei hanelu at y gweithlu chwarae – y rheini sydd mewn rolau allai effeithio ar hawl y plentyn i chwarae.
Mae Beth yw chwarae a gwaith chwarae? a Pam gwaith chwarae? yn cyflwyno chwarae a chwarae fel gweithgaredd ac yn datblygu dealltwriaeth o rôl gweithwyr chwarae. Mae’r sesiynau hyn yn cael eu hanelu at wirfoddolwyr, pobl sy’n newydd i’r proffesiwn fel cwrs lefel mynediad, neu weithwyr chwarae tymhorol fel cwrs gloywi.
Ddim yn gweld yr hyn sydd arnochchi ei eisiau? Rydym am roi’r hyn sydd ei eisiau arnynt i’r sector chwarae a phawb sy’n gweithio gyda phlant a phob lifanc, felly os oes gennych angen o ran hyfforddiant ym maes chwarae neu waith chwarae nad ydym yn sôn amdano yma, rhowch wybod i ni abyddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar eich cyfer.