top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Cartref Cyrsiau Hyfforddi Cymhwyster Cenedlaethol Achub Bywydau Mewn Pwll
start content

Cymhwyster Cenedlaethol Achub Bywydau Mewn Pwll

Y Cymhwyster Cenedlaethol Achub Bywydau Mewn Pwll (NPLQ) yw’r cymhwyster achubwr bywydau mwyaf poblogaidd yn y DU ac Iwerddon ac mae’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Mae dros 40,000 o achubwyr bywydau pyllau nofio’n cymhwyso gyda RLSS UK bob blwyddyn, ac mae dros 90,000 o achubwyr bywydau pyllau nofio’n meddu ar y cymhwyster NPLQ - 95% o achubwyr bywydau pyllau nofio’r DU. 

Caiff RLSS UK ei reoleiddio gan Ofqual, Cymwysterau Cymru a CCEA yng Ngogledd Iwerddon.

Dyddiadau cwrs Cenedlaethol Achub bywydau mewn pwll

8:30am tan 5pm, Canolfan Hamdden Colwyn

  • 22 Chwefror tan 28 Chwefror 2024

Sut allaf ddod yn achubwr bywydau? 

Mae’n rhaid i bawb sy’n cwblhau cwrs NPLQ fod yn 16 oed neu’n hŷn ar adeg cwblhau’r asesiad terfynol ac yn gallu:

  • Neidio / deifio i mewn i ddŵr dyfn
  • Nofio 50 metr dan 60 eiliad 
  • Nofio 100 metr heb stop ar eich cefn a'ch bol mewn dŵr dwfn 
  • Troedio’r dŵr am 30 eiliad
  • Deifio o’r arwyneb i waelod y pwll
  • Dringo allan o’r pwll heb ysgol/grisiau pan fo cynllun y pwll yn caniatáu hynny

Beth mae bod yn achubwr bywydau’n ei olygu? 

Mae achubwyr bywydau’n elwa o oriau gwaith amrywiol, sy’n gallu cyd-fynd yn dda gydag ymrwymiadau eraill, y profiad o weithio o fewn tîm, a’r cyfle i ddatblygu o fewn y diwydiant hamdden - mae’r mwyafrif o reolwyr hamdden yn dechrau fel achubwyr bywydau pyllau nofio. 

Os hoffech chi ddysgu mwy am fod yn achubwr bywydau, darllenwch hanes Katie.

Dysgu sgiliau bywyd

Mae opsiwn i ennill cymwysterau ychwanegol yn ystod cwrs NPLQ, bydd y rhain yn ymofyn oriau ychwanegol:

  • Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith
  • Tystysgrif Cymorth Cyntaf yn y Gweithle
  • Tystysgrif Diffibriliwr Allanol Awtomatig
  • Rheoli Anaffylacsis

 Buddion

  • Man dechrau gwych ar gyfer gyrfa yn y diwydiant hamdden
  • Cyfle ar gyfer datblygiad gyrfaol gan fod y mwyafrif o reolwyr hamdden yn dechrau fel Achubwyr Bywydau Pyllau Nofio
  • Oriau gwaith amrywiol
  • Gweithio o fewn tîm
  • Cydnabyddir y cymhwyster NPLQ ar draws y byd, felly mae’n cynnig potensial i weithio a theithio
  • Ffordd wych i fyfyrwyr ariannu astudiaethau
  • Dysgu sgiliau bywyd hanfodol, gan gynnwys Cymorth Cyntaf a CPR
  • Mae hwn un dystysgrief lefel 3 newydd mewn Achubwr Bywyd sy'n golygu ei fod gwerth 8 pwynt UCAS (o fis Mai 2024 ymlaen)

Ynglŷn â’r asesiad

Cynhelir asesiad ar gyfer y cymhwyster NPLQ ar ddiwedd y cwrs.  Bydd yn mesur eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o egwyddorion gweithio fel achubwr bywydau mewn pwll ac yn asesu eich gallu i ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth mewn amgylchedd gwaith. 

Rhennir yr asesiad i dair rhan: 

  • Asesiad pwll ymarferol
  • Asesiad theori ar gyfer y tair adran
  • Asesiad CPR a Chymorth Cyntaf Ymarferol.

Sut ydw i’n adnewyddu fy NPLQ?

Gall deiliaid NPLQ adnewyddu eu cymhwyster o fewn cyfnod dilysrwydd eu cymhwyster presennol fel sydd wedi’i nodi ar eu tystysgrif.  Bydd hyn yn cynnwys asesiad lawn o wybodaeth a sgiliau fel achubwr bywydau gan asesydd annibynnol.  Mae’n rhaid i ymgeiswyr gael mynediad at y copi diweddaraf o lawlyfr ‘The Lifeguard’ cyn yr asesiad. 
Mae gofyn i ymgeiswyr gwblhau’r canlynol cyn i’r asesiad ar gyfer adnewyddu’r cymhwyster gael ei gynnal er mwyn profi eu cymhwysedd proffesiynol parhaus: 

  • 20 awr o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf o ddyddiad yr asesiad blaenorol yn ymdrin â chynnwys y fanyleb NPLQ:
    • Sgiliau achub yn y dŵr mewn pwll (o leiaf 4 awr) 
    • CPR (o leiaf 4 awr) 
    • Cymorth Cyntaf (o leiaf 4 awr)
    • Theori achubwr bywydau (o leiaf 4 awr) 

Gellir cyflawni Datblygiad Proffesiynol Parhaus drwy: 

  • Fynychu hyfforddiant parhaus ac asesiadau cymhwysedd Achubwr Bywydau* (argymhellir hyn yn gryf) 
  • Mynychu hyfforddiant amgen, wyneb yn wyneb neu ar-lein, yn ymwneud â sgiliau achub yn y dŵr mewn pwll nofio, CPR, Cymorth Cyntaf a theori Achubwyr Bywydau

Dysgu Blaenorol Cymeradwy

Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr yn gallu dangos tystiolaeth o gyflawniad blaenorol sy’n eu heithrio o adrannau o’r cwrs.  Mae’n bosibl y bydd eithriadau’n berthnasol i ddeiliaid y gwobrau a’r cymwysterau canlynol (gweler yr oriau dysgu dan arweiniad mewn cromfachau): 

  • Cymhwyster Cenedlaethol Achub Bywydau ar Draethau Galwedigaethol RLSS UK (12 awr)
  • Gwobr Achub Cenedlaethol ar gyfer Athrawon a Hyfforddwyr Nofio RLSS UK (6 awr) 
  • Cymhwyster Ymateb Brys Pyllau Nofio RLSS UK (6 awr) 
  • Cymhwyster Achub Bywydau mewn Dŵr Agored RLSS UK (6 awr) 
  • Tystysgrif Reoledig Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu Dystysgrif Reoledig Cymorth Cyntaf Galwedigaethol  (9 awr)
  • Tystysgrif Reoledig Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle (3 awr)
  • Tystysgrif Reoledig Cymorth Cyntaf Pediatrig (6 awr) 
  • Tystysgrif Reoledig Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys (3 awr) 
  • Cymhwyster Achub Bywydau mewn Pwll STA (9 awr)  
  • Cymhwyster Achub Bywydau mewn Pwll HABC (9 awr)  


Os bydd ymgeiswyr yn dymuno cael eu heithrio o hyfforddiant, mae’n rhaid iddynt ddarparu’r cymwysterau gwreiddiol i’r hyfforddwr cyn dechrau’r cwrs. Gellir hawlio uchafswm o 12 awr o achrediad dysgu blaenorol. 

Mwy o wybodaeth

Os hoffech ragor o wybodaeth am y cwrs, llenwch ein ffurflen ymholiad hyfforddiant, neu fel arall gallwch gysylltu ag aelod o'n tîm gan ddefnyddio'r manylion isod:

Rhif ffôn: 0300 456 95 25 
E-bost: hamdden.leisure@conwy.gov.uk

Cost: £290 y pen

Telerau ac Amodau Safonol (PDF)

end content