Pethau Hwyliog I'w Gwneud Dros Y Pasg!

14 - 25 Ebrill 2025
Gwersyll Chwaraeon - Llandudno
Wythnos 1: Dydd Llun 14 Ebrill - Dydd Iau 17 Ebrill 2025 | 8:30am–4:30pm
Wythnos 2: Dydd Mawrth 22 Ebrill - Dydd Gwener 25 Ebrill | 8:30am–4:30pm
Oed: 5-11
Canolfan Nofio Llandudno a Canolfan Hamdden John Bright
Nofio pob diwrnod o 9-10am cyn cerdded draw i Ganolfan Hamdden John Bright i fwynhau diwrnod llawn hwyl! Amrywiaeth o chwaraeon gan hyfforddwyr cymwys gan gynnwys: gêm osgoi’r bêl, trampolinio, sglefrio, chwaraeon raced a chwaraeon tîm (Amserlen ddyddiol).
Cost: £27.50 y diwrnod (neu os yw’r plentyn ar Ddebyd Uniongyrchol Nofio: £25.30)
Gwersyll Aml-chwaraeon - Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy
Dydd Iau 17 Ebrill a Dydd Iau 24 Ebrill 2025
10:00am - 2:30pm
Oed: 5+
Plant i wisgo dillad addas a chlymu gwallt hir yn ôl. Hefyd, dewch â bocs bwyd a digon o ddiod. Cost: £19.80
Gwersyll Gymnasteg - Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy, Llanrwst
Dydd Llun 14 Ebrill a Dydd Gwener 25 Ebrill 2025
10:00am - 2:30pm
Oed: 5+
Treuliwch eich diwrnod gyda’n hyfforddwyr gymnasteg hwyliog a brwdfrydig!
Mae ein gwersylloedd gymnasteg yn llawn antur wrth archwilio ystod eang o offer gymnasteg, datblygu sgiliau gymnasteg ynghyd â digon o hwyl a gemau. Perffaith ar gyfer y rhai sy’n hoffi gymnasteg! Plant i wisgo dillad addas a gwallt hir wedi’i glymu’n ôl. Hefyd dewch â sanau a bocs bwyd gyda digon i’w yfed.
Cost: £19.80
Gwersi Nofio Dwys - Canolfan Hamdden Abergele
Wythnos 1 : 14/04/25 - 17/04/25
Wythnos 2 : 22/04/25 - 25/04/25
Ton 1 a 2: 10:10am – 10:40am | 10:45am - 11:15am | 11:20am - 11:50am
Ton 3: 10:45am - 11:15am | 11:20am - 11:50am
Ton 4 a 5: 10:10am – 10:40am
Cost: £19.60
Gwersyll Nofio - Canolfan Nofio Llandudno
Dydd Llun 14 Ebrill tan Ddydd Iau 17 Ebrill 2025 10am - 12pm
Mae’r sesiynau wedi’u hanelu at blant sydd wedi cychwyn Ton 6/7, Nofio Ffit Iau, Academi, neu Glwb Nofio.
Nod y Gwersyll Nofio yw gwella techneg dulliau a gwella eich dealltwriaeth o nofio fel chwaraeon, gyda hyfforddiant ac arweiniad ymarferol gan ein staff hyfforddi cymwys.
Hyfforddiant ar y Tir - Hyfforddiant Nofio mewn pwll 25m
Cost: £50
Cymhwyster Cenedlaethol Achub Bywydau Mewn Pwll RLSS (NPLQ) (16+) - Canolfan Hamdden Colwyn
12 Ebrill tan 17 Ebrill 2025 8.30am - 5.30pm
Cost: £290 gan gynnwys asesiad.
I gael gweld y rhagofynion a chael rhagor o wybodaeth ewch i: https://ffit.secure.conwy.gov.uk/cy/Home/Training-Courses/National-Pool-Lifeguard-Course.aspx
Ebost: hamdden.leisure@conwy.gov.uk
Ffôn: 0300 456 95 25
Gweithgareddau Iau - 11-15 Oed
Canolfan Hamdden Colwyn
Dydd Llun 14 Ebrill
15:30 - 16:15: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid)
Dydd Mawrth 15 Ebrill a 22 Ebrill
11:00 - 12:00: Sesiwn Pêl-droed Galw Heibio
13:00 - 14:00: Chwaraeon Raced Ieuenctid *
15:30 - 16:15: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
Dydd Mercher 16 Ebrill a 23 Ebrill
15:30 – 16:15: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid)
Dydd Iau 17 Ebrill a 24 Ebrill
11:00 - 12:00: Sesiwn Pêl-droed Galw Heibio
13:00 - 14:00: Chwaraeon Raced Ieuenctid*
15:30 - 16:15: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
*(yng Nghanolfan Tennis James Alexander Barr)
Cost:
Clwb Codi Pwysau Ieuenctid a Chwaraeon Raced Ieuenctid: Wedi’i gynnwys yn yr Aelodaeth Iau neu £5 y sesiwn. Darperir yr holl offer. Man diogel i chwarae gyda ffrindiau dros hanner tymor, sesiynau anffurfiol.
Sesiwn Pêl-droed Galw Heibio: Mae’r sesiynau wedi’u cynnwys yn yr aelodaeth neu bris talu wrth fynd o £3 y sesiwn. Rhaidarchebu lle.
Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder) Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i ddefnyddio barbwysau, dymbelau, bandiau gwrthiant ac ymarferion pwysau’r corff yn ddiogel i ddatblygu cryfder sylfaenol a gwella ffitrwydd cyffredinol. Mae’r sesiynau hyn yn ffordd wych i bobl ifanc adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer perfformiad athletaidd ac angerdd gydol oes am ffitrwydd.
Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid) Bydd cyfranogwyr yn gweithio ar wella eu cryfder, cyflymder, cydsymudiad a stamina trwy ymarferion wedi’u hysbrydoli gan ddigwyddiadau Hybrid. Mae’r dosbarth hwn yn berffaith ar gyfer pobl ifanc sydd eisiau cadw’n heini ac ymgymryd â heriau ffitrwydd newydd!
Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno
Dydd Llun 14 Ebrill a 22 Ebrill
10:00 - 10:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
16:00 - 16:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid)
Dydd Mawrth 15 Ebrill a 22 Ebrill
10:00 - 10:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid)
16:00 - 16:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
Dydd Mercher 16 a 23 Ebrill
10:00 - 10:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
16:00 - 16:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid)
Dydd Iau 17 Ebrill a 24 Ebrill
10:00 - 10:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid)
16:00 - 16:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
Dydd Gwener 25 Ebrill
16:30 - 17:30 BoxFfit Iau
Darperir yr holl offer. Cost: Wedi’i gynnwys yn yr Aelodaeth Iau neu £5 y sesiwn.
Canolfan Hamdden Abergele
Sesiynau galw heibio pêl-droed - cae 3G
Bob dydd:
Dydd Llun 14 Ebrill tan dydd Gwener 17 Ebrill
Dydd Mawrth 22 Ebrill tan dydd Gwener 25 Ebrill
13:00 – 15:00
Man diogel i chwarae gyda ffrindiau dros hanner tymor, sesiynau anffurfiol. Cost: Mae’r sesiynau wedi’u cynnwys yn yr aelodaeth neu bris talu wrth fynd o £3 y sesiwn. Rhaid archebu lle.
Archebwch eich sesiynau rŵan ar Ap Ffit Conwy!
Neu Ffôn: 0300 456 95 25 / Ebost: hamdden.leisure@conwy.gov.uk