Gala Sblash y Pasg Ffit Conwy 2025 - Digwyddiad Nofio Llawn Hwyl i Nofwyr Ifanc Ton 6+!

Mae Ffit Conwy wedi cyffroi i gyhoeddi y bydd y Gala Sblash yn ôl yn 2025, cystadleuaeth nofio gyffrous i nofwyr ifanc sydd ar Don 6 ac uwch ar hyn o bryd. Cynhelir y Gala ddydd Gwener 4 Ebrill yng Nghanolfan Nofio Llandudno a bydd yn gyfle i blant brofi gwefr nofio cystadleuol mewn amgylchedd hwyliog a chefnogol.
Mae Gala Sblash y Pasg ar agor i bob nofiwr sydd ar raglenni Ton 6, 7, Academi, Nofio Ffit ac Achub Bywyd (Ton 8). Gall y rhai sy’n cymryd rhan ddewis o ystod o rasys 25m a 50m mewn dull rhydd, cefn, broga neu bili-pala. Gall nofwyr Ton 8 hefyd gymryd rhan yn y ras Dull Cymysg Unigol 100m. Hefyd, bydd rasys cyfnewid yn cael eu trefnu gan athrawon nofio ac maen nhw am ddim.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener 21 Mawrth 2025.
Dywedodd Stephanie Rowles, Rheolwr Nofio Ffit Conwy a’r Trefnydd:
“Dyma ffordd wych i blant gael profiad mewn sefyllfa gala nofio go iawn, datblygu hyder a sgiliau rasio a mwynhau cystadleuaeth hwyliog a chyfeillgar gyda’u cyd-nofwyr.
“Bydd y gala’n dechrau am 4pm, a bydd sesiwn gynhesu am 4:30pm. Bydd y rasys yn cymryd tua tair awr. Mae croeso i bobl ddod i wylio a chymeradwyo, annog a chefnogi (uchafswm o ddau i bob nofiwr)”.
Ffi fynediad: £12 (yn cynnwys hyd at 4 ras, het nofio a chrys t arbennig y gala).
I gymryd rhan, ewch at dderbynfa eich canolfan hamdden leol a llenwi’r ffurflen gofrestru cyn y dyddiad cau ar 21 Mawrth. (Ni dderbynnir ceisiadau hwyr).
I gael ychwaneg o wybodaeth, ffoniwch 0300 456 9525 neu e-bostiwch hamdden.leisure@conwy.gov.uk.