top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Newyddion Gweithgareddau iau (11-15) yr hanner tymor
start content

Gweithgareddau iau (11-15) yr hanner tymor

Half-term-junior

Mae Tîm Ffit Conwy wedi trefnu sesiynau ychwanegol ar gyfer ein haelodau iau yr hanner tymor hwn. Cliciwch ar bob adran isod i ddarganfod beth sydd ymlaen yn eich canolfan hamdden agosaf!

Cost: Wedi'i gynnwys yn yr Aelodaeth Iau (£17.35 y mis, debyd uniongyrchol), neu £4.35 i'r rhai nad ydynt yn aelodau.

Amserlenni

Dydd Llun 28 Hydref

  • 12pm tan 1pm: chwaraeon raced
  • 2pm tan 3pm: pêl-droed, 3G pitch

dyddiol, dydd Llun 28 Hydref i ddydd Iau 31 Hydref

  • 4pm tan 4:45pm Clwb Codi Pwysau i Ieuenctid

Dydd Mawrth 29 Hydref

  • 12pm tan 1pm: chwaraeon raced, James Alexander Barr Tennis Centre (cwrt dan do)
  • 2pm tan 3pm: pêl-droed, cae 4G

Dydd Gwener 1 Tachwedd

  • 5pm tan 6pm: sesiwn flasu tenis i blant iau (cwrt dan do)

Dydd Sadwrn 2 Tachwedd

  • 11am tan 12pm: sesiwn flasu tenis i blant iau (cwrt dan do)

Dydd Mercher 30 Hydref

  • 12pm tan 1pm: chwaraeon raced
  • 2pm to 3pm: pêl-droed, cae 3G

dyddiol, dydd Llun 28 Hydref i ddydd Iau 31 Hydref

  • 4pm tan 4:45pm: Clwb Codi Pwysau i Ieuenctid

Dydd Gwener 1 Tachwedd

  • 4:30pm tan 5:30pm: BoxFit Iau

Gwybodaeth am y sesiynau

Clwb Codi Pwysau i Ieuenctid

Yng Nghlwb Codi Pwysau i Ieuenctid, gall athletwyr ifanc 11-15 oed ddatblygu eu cryfder, techneg a hyder mewn amgylchedd cefnogol a hwyliog.

Bydd ein hyfforddwyr profiadol yn darparu rhaglenni hyfforddi wedi’u teilwra sy’n canolbwyntio ar dechnegau codi, diogelwch a ffitrwydd corfforol. Ein nod yw helpu pobl ifanc i gyflawni eu gorau ac i feithrin cariad gydol oes tuag at ffitrwydd.

Os ydych yn ddechreuwr neu’n edrych i wella eich sgiliau ymhellach, ymunwch â ni i adeiladu ar eich cryfder, i ddysgu sgiliau newydd ac i wneud ffrindiau ar yr un pryd!

Chwaraeon raced

Dewch i geisio gwahanol fathau o chwaraeon raced (badminton, pickleball a thennis byr). Darperir yr holl offer.

Sesiynau pêl-droed 

Mwynhewch ofod diogel i chwarae gyda ffrindiau dros wyliau’r haf, sesiynau heb strwythur ond staff yn bresennol.

Archebwch eich sesiwn ar ap Ffit Conwy neu drwy ffonio 0300 456 95 25

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at hamdden.leisure@conwy.gov.uk

end content