Canolfan Tennis Bae Colwyn yn dathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu
Dyddiad: 24 Hydref 2023
Mae Canolfan Tennis James Alexander Barr ym Mae Bae Colwyn wedi dathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu gyda diwrnod arbennig o dwrnameintiau dwbl.
Bu i’r ganolfan Ffit Conwy hynod boblogaidd sydd ym Mharc Eirias yn y dref agor ei drysau yn swyddogol i selogion tennis brwd ar 18 Hydref 2003.
Gyda dau gwrt dan do a phedwar cwrt awyr agored wedi eu goleuo, bu miloedd o sesiynau hyfforddi a thwrnameintiau yno, yn ogystal â llogi preifat a chlybiau gwyliau.
I nodi 20 mlynedd, bu i’r Ganolfan, a enwyd er cof am swyddog chwaraeon a hamdden yng Nghyngor Bwrdeistref Colwyn, gynnal bore o dwrnameintiau dwbl Tennis Fast4 i’w aelodau ar ddydd Sul 22 Hydref.
Bu 16 o aelodau yn chwarae gemau un ar ôl y llall, gyda gwobrau’n cael eu cyflwyno wedi hynny. Enillwyr y prif dwrnamaint oedd Andrew Kirkham ac Evelyn Kirkham ac yn ail roedd Adam Gorst a Hannah Kennedy. Cyflwynwyd tlws y Plât i’r enillwyr Aled Roberts a Tania Dupre a’r ail yn y gystadleuaeth Leon Davies a Mena Hitchings.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne, Aelod Cabinet Diwylliant a Hamdden, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:
“Mae Cyngor Conwy yn falch o’r hyn mae Canolfan Tennis James Alexander Barr wedi ei gyflawni dros y 20 mlynedd ddiwethaf o ran datblygu tennis yn y rhanbarth."
“Mae’r cyfleusterau yn y ganolfan yn wych i holl ddefnyddwyr a galluoedd; p’un ai eu bod yn bobl ifanc sy’n codi raced am y tro cyntaf ac yn rhoi cynnig arni, neu’n selogion tennis brwd. Mae’n amcan pwysig i ni fel Cyngor ein bod yn darparu cyfleoedd chwaraeon ar bob lefel ac yn annog pobl i gadw’n heini.”
Dywedodd Rheolwr Ardal Ffit Conwy, Neil Williams:
“Diolch i bawb a gymerodd ran yn y ddathlu! Mae gennym ganolfan wych yn Eirias sy’n hygyrch i bob oedran a gallu. Yn ddelfrydol i’r rhai sydd eisiau dechrau chwarae tennis neu’r rhai sydd eisiau gwella eu gêm.”
Ar ôl y gemau, bu i’r Cynghorydd Abdul Khan, aelod o’r clwb ac Aelod Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Ward Glyn Bae Colwyn, gyflwyno medalau a thlysau i’r enillwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Abdul Khan:
“Mae’n bleser gweld pawb yn mwynhau bore gwych o chwarae tennis i ddathlu’r pen-blwydd. Da iawn bawb a gymerodd ran yn y dathliadau. Edrychwn ymlaen at ddyfodol y ganolfan, gan groesawu pawb i ddod i chwarae chwaraeon raced.”
Mae cyfleusterau’r ganolfan ar agor i’r cyhoedd, a gellir archebu sesiynau ‘Talu a Chwarae’ tennis neu fadminton trwy gydol yr wythnos.
I gael rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Tennis ewch i: www.ffitconwy.co.uk