Title

Text
cy Newyddion Sesiynau haf Ffit Conwy
start content

Sesiynau haf Ffit Conwy

WelshBanner

Mae’r haf yn nesáu! Ydych chi’n chwilio am weithgareddau bach da i’ch plant dros y gwyliau haf? Gall Ffit Conwy eich helpu.

Gyda sesiynau at ddant pawb ac amrywiaeth da o weithgareddau a gemau sy’n siŵr o losgi llawer o egni! Dyma ein sesiynau haf ar gyfer plant 5-11 oed.

Gwersyll Chwaraeon! Llandudno, Canolfan Hamdden John Bright

  • Pryd: bob dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener yn ystod gwyliau’r haf (ac eithrio gŵyl y banc), 8:30am tan 4:30pm. Gollwng plant yng Nghanolfan Nofio Llandudno am 8:30am
  • Pris: £27.50 y diwrnod neu £25.30 y diwrnod os ydych chi’n talu am wersi nofio i’ch plentyn drwy ddebyd uniongyrchol

Gwersyll Chwaraeon! Bae Colwyn, Canolfan Ddigwyddiadau Eirias

  • Pryd: bob dydd Llun, dydd Iau a dydd Gwener yn ystod gwyliau’r haf (ac eithrio gŵyl y banc), 8:30am tan 4:30pm
  • Pris : £27.50 y diwrnod neu £25.30 y diwrnod os ydych chi’n talu am wersi nofio i’ch plentyn drwy ddebyd uniongyrchol

Gwersyll gymnasteg, Canolfan Hamdden John Bright

  • Pryd: bob dydd Mawrth yn ystod gwyliau’r haf, 10am tan 3pm
  • Pris: £22 y diwrnod

Hyfforddiant trampolinio, Canolfan Hamdden Abergele

  • Pryd: bob dydd Gwener yn ystod gwyliau’r haf. Sesiwn 1 o 10am tan 12pm, sesiwn 2 o 12:30pm tan 2:30pm
  • Pris: £14.50 y sesiwn

Gwersyll Aml-chwaraeon, Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy

  • Pryd: dydd Gwener 1 Awst a dydd Gwener 8 Awst, 10am tan 2:30pm
  • Pris: £22.00 y sesiwn

Gwersyll gymnasteg, Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy

  • Pryd:
    • dydd Iau 31 Gorffennaf, 12:30pm tan 5pm
    • dydd Iau 7 Awst, dydd Iau 14 Awst a dydd Iau 21 Awst, 10am tan 2:30pm
  • Pris: £22.00 y sesiwn

Ffoniwch 0300 456 95 25 i archebu lle!



end content