top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Dewch yn aelod
start slider

end slider
start grid

Ymunwch, cofrestrwch neu adnewyddwch gyda Ffit Conwy

Aelodaeth Safonol Ffit Conwy - £38.50 bob mis

Mae Aelodaeth Ffit Conwy yn cynnig gwerth anhygoel am arian a’r dewis gorau o ran ffitrwydd. P’un a ydych chi eisiau cymryd rhan yn un o’n dosbarthiadau ffitrwydd, gweithio ar eich amseroedd nofio neu chwysu chwartiau yn y gampfa, gall Ffit Conwy gynnig y cwbl i chi.

Mae’r aelodaeth yn gadel i chi ddefnyddio pob un o’r 10 canolfan ledled Conwy, y 7 campfa a’r 4 pwll nofio. Mae pob canolfan yn cynnig rhywbeth gwahanol ac mae’r aelodaeth hon yn gadael i chi fanteisio ar y cyfleusterau a'r gweithgareddau gwych sydd gan Gonwy i'w cynnig.

 


Aelodaeth Gorfforaethol Ffit Conwy - £34.65 bob mis

Mae Conwy wedi ymuno â nifer o gwmnïau a sefydliadau i gynnig aelodaeth gorfforaethol sy’n rhoi gostyngiad o 10% i chi ar ein haelodaeth safonol. Yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw dod â bathodyn ID eich cwmni a slip cyflog diweddar gyda chi wrth gofrestru. Mae rhestr o’r cwmnïau sy’n gymwys i gael aelodaeth gorfforaethol i’w gweld yma

 

Methu dod o hyd i’ch cwmni ar y rhestr hon? Cysylltwch â ni er mwyn holi ynglŷn ag ychwanegu eich cwmni.

Ar ôl i chi gwblhau eich cais aelodaeth bydd angen i chi gyflwyno llun o fathodyn adnabod eich cwmni neu slip cyflog diweddar, y gallwch ei wneud trwy glicio ar y botwm ar waelod y dudalen hon.

 


Aelodaeth Gynhwysol Ffit Conwy - £23.10 bob mis

I’r rhai hynny sy’n gymwys, mae Aelodaeth Gynhwysol Ffit Conwy yn cynnig yr un manteision i chi ag aelodaeth safonol am ostyngiad o 40%.

I fod yn gymwys ar gyfer yr aelodaeth hon, rhaid i chi ddod o dan un o’r categorïau canlynol:

  • Myfyriwr dros 16 oed: rhaid i chi ddangos eich cerdyn myfyriwr gyda'r dyddiad dod i ben arno
  • Pobl Hŷn dros 60 oed: bydd angen i ni weld tystysgrif geni ddilys, trwydded yrru, pasbort neu bas bws
  • Cwsmeriaid sydd wedi cwblhau ein Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff: rhaid i chi fod wedi cwblhau’r rhaglen 16 wythnos ac wedi cael adolygiad 16 wythnos
  • Staff CBSC: rhaid i chi ddangos eich rhif cyflogres a’ch bathodyn ID staff neu slip cyflog diweddarn

 Ar ôl i chi gwblhau eich cais aelodaeth bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth eich bod yn gymwys i gael y math hwn o danysgrifiad, y gallwch ei wneud trwy glicio ar y botwm ar waelod y dudalen hon.


Aelodaeth Iau Ffit Conwy - £17.35 bob mis

Mae aelodaeth Plant Ffit yn ffordd wych i bobl ifanc fod yn fwy egnïol yn amlach, a hynny am ffi fisol fforddiadwy a gesglir drwy ddebyd uniongyrchol.

Dyma sy’n rhan o’r aelodaeth hon:
  • Defnydd o’r Ystafell Ffitrwydd*
  • Nofio Cyhoeddus
  • Badminton (hanner cwrt)
  • Sboncen (hanner cwrt)
  • Tennis awyr agored (hanner cwrt)
  • Rhai dosbarthiadau ffitrwydd (cysylltwch â'ch canolfan hamdden i gael gwybodaeth)

*Bydd angen cael sesiwn gynefino cyn defnyddio’r ystafelloedd ffitrwydd. Rhaid i oedolyn sy’n talu fod gyda phob plentyn yn y gampfa oni bai eu bod yn cymryd rhan yn un o'n sesiynau campfa iau dan oruchwyliaeth.

Yn dilyn llwyddiant y cynnig ar ein haelodaeth iau dros yr haf, rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn ymestyn yr amseroedd y gall aelodau iau ddefnyddio ein cyfleusterau yn Abergele, Colwyn, Cyffordd Llandudno a’r Canolbwynt yn Llanrwst unwaith eto. 

O ddydd Llun, 5 Medi, gall aelodau iau fynychu’r campfeydd, dosbarthiadau ymarfer corff neu sesiynau nofio ar eu pen eu hunain rhwng 7am a 7pm ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 8am a 2pm ar y penwythnosau (gweler gwefan Ffit Conwy ar gyfer oriau agor bob Canolfan Hamdden yn unigol).

Mae lles corfforol ac emosiynol ein plant a’n pobl ifanc yn bwysicach nag erioed.  Yma yn Ffit Conwy, rydym yn cydnabod y rhan yr ydym yn ei chwarae o ran cael pobl i fod yn actif, ac yn credu ei fod yn gam pellach pwysig i blant a phobl ifanc feithrin a chynnal arferion cadarnhaol a fydd yn para oes.

 

 

 


Aelodaeth Hamdden Gwledig - £21.00 bob mis

Mae’r Aelodaeth Gwledig Ffit Conwy yn cynnig yr opsiwn i gymryd rhan mewn gweithgareddau o fewn eich pentrefi lleol. Mae dosbarthiadau yn cael ei chynnig mewn nifer o bentrefi gwahanol heb yr angen i drafaelio i’ch canolfan hamdden leol. Mae amrywiaeth o weithgareddau o Yoga i Feicio Stiwdio ar gael. Mae rhaglenni Pilates ar-lein a hefyd rhaglenni YouTube i aelodau mynegi unrhyw amser.

Mae’r aelodaeth yn gadel i chi ddefnyddio pob un sesiwn gwledig un unig ond ddim yn cynnwys canolfannau hamdden na’r pyllau nofio.

 


 

Tocynnau Blynyddol Ffit Conwy

Mae ein haelodau yn cael mynediad i holl Ganolfannau Hamdden Conwy gyda’r tocynnau 12 mis yma. Mae hyn yn cynnwys 7 ystafell ffitrwydd, 4 pwll nofio a dros 150 o ddosbarthiadau ymarfer corff yr wythnos.

12 mis am bris 10:

  • Blynyddol Safonol - £385.00
  • Blynyddol Corfforaethol - £346.50
  • Blynyddol Cynhwysol - £231.00

 


Tanysgrifiad Teyrngarwch

TanysgrifiadPris
Oedolyn £20.00 y flwyddyn
Dinesydd Hŷn £13.00 y flwyddyn
Iau £13.00 y flwyddyn
Cynhwysol £13.00 y flwyddyn

Mae ein Tanysgrifiad Teyrngarwch yn cynnig gostyngiadau gwych (tua 25% i ffwrdd) ar weithgareddau a chyfleusterau chwaraeon megis:

  • Ystafelloedd Ffitrwydd
  • Pyllau nofio
  • Dosbarthiadau Ffitrwydd
  • Llogi’r Neuadd Chwaraeon
  • Llogi’r cae awyr agored


Bydd eich Tanysgrifiad Teyrngarwch yn ddilys am flwyddyn o’r dyddiad y byddwch chi’n cofrestru. Bydd angen i chi adnewyddu eich tanysgrifiad yn flynyddol a byddwch yn talu'r gyfradd gyfredol am y flwyddyn honno. Dim ond y cwsmer sy’n cymryd rhan yn y gweithgaredd yn y ganolfan hamdden gaiff ddefnyddio’r tanysgrifiad. Allwch chi ddim defnyddio tanysgrifiad aelod arall o’ch teulu i gael y gostyngiad.

 


Tanysgrifiad Teyrngarwch Anabledd - £13.00 y flwyddyn

Mae hwn yn gynllun mynediad sy’n helpu pobl anabl i ddod yn fwy egnïol drwy hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Mae manteision tanysgrifiad yn cynnwys:

  • nofio am ddim o fewn oriau cyhoeddus
  • mynediad am ddim i ystafelloedd ffitrwydd CBSC (bydd angen cael sesiwn gynefino)
  • mynediad am ddim i ddosbarthiadau ffitrwydd
  • llogi cwrt sboncen, badminton a thennis am hanner pris

Ar ôl i chi gwblhau eich cais aelodaeth bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth eich bod yn gymwys i gael y math hwn o danysgrifiad, y gallwch ei wneud trwy glicio ar y botwm ar waelod y dudalen hon.

I fod yn gymwys i gael y tanysgrifiad hwn, RHAID i chi fod yn derbyn naill ai lwfans byw i'r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, lwfans gweini, Lwfans Cymorth Cyflogaeth, Taliad Annibynnol y Lluoedd Arfog, Taliad Incwm Gwarantedig neu gredydau treth i bobl anabl.

Cysylltwch ag unrhyw un o Gyfleusterau Hamdden CBSC neu anfon neges drwy'r ffurflen Cysylltwch â ni.

I gael gwybod mwy am ein holl gynigion aelodaeth a sut y gallen nhw weithio i chi, cysylltwch â ni neu ewch i’ch canolfan hamdden leol, lle bydd ein staff wrth law i ddangos y lle i chi ac ateb unrhyw gwestiynau.


Tanysgrifiadau teyrngarwch corfforaethol, cynhwysol ac anabledd

Ar gyfer yr aelodaeth/tanysgrifiadau hyn bydd angen cyflwyno prawf o gynhwysedd o fewn tair wythnos o ymuno. 

Peidiwch â chyflwyno prawf o gymhwysedd nes ar ôl i chi gofrestru ar gyfer aelodaeth neu danysgrifiad Ffit Conwy.


I gyflwyno'r dystiolaeth hon gallwch glicio ar y botwm isod a lawrlwytho'r dogfennau sy'n berthnasol i'ch math tanysgrifiad.

 

 


 

Prisiau Canolfannau Hamdden

 

end grid