top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Newyddion Rhaglen Nofio'n Ddiogel, Porth Eirias, Bae Colwyn
start content

Rhaglen Nofio'n Ddiogel, Porth Eirias, Bae Colwyn

Swim Safe Image cy

Padlfyrddio wrth sefyll, syrffio achub bywydau, caiacio, bod yn ddiogel ar y traeth

Mae sesiynau yn cael eu harwain gan hyfforddwyr cymwys. Darperir yr holl offer.

Oedran: 8-14
Cost: £15 y sesiwn

Archebwch ar-lein.

Sesiynau agored

Mae’r sesiynau hyn ar gyfer pawb, heb ddim neu fawr ddim addasiadau yn yr amgylchedd, yr offer neu ddarpariaeth y sesiwn. Yn aml wedi’u dylunio ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl ond wedi’u darparu’n gynhwysol fel y gall pobl anabl gydag amhariadau cymedrol ymgysylltu a chymryd rhan yn yr un gweithgaredd ar yr un pryd.

Sesiynau y bore

  • Dyddiadau: 31 Gorffennaf, 5 Awst, 19 Awst, 21 Awst
  • Amser: 9:30am tan 12pm

Sesiynau y prynhawn

  • Dyddiadau: 31 Gorffennaf, 12 Awst, 14 Awst
  • Amser: 1pm tan 3:30pm

Sesiynau gallu cymysg

Mae cyfranogwyr â gallu amrywiol yn cymryd rhan yn yr un gweithgaredd ar yr un pryd. Er bod pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn cymryd rhan yn yr un sesiwn, efallai bod y rheolau neu offer wedi cael eu haddasu ar gyfer unigolion penodol er mwyn helpu i hyrwyddo cynhwysiant. Bydd chwaraewyr ifanc nad ydynt yn anabl neu gydag ychydig o amhariad yn aml yn cefnogi cyfranogwyr ifanc sydd ag amhariadau mwy sylweddol gan ganolbwyntio ar waith tîm.

Sesiynau y bore

  • Dyddiadau: 7 Awst, 12 Awst
  • Amser: 9:30am tan 12pm

Sesiynau y prynhawn

  • Dates: 29 Gorffennaf, 21 Awst
  • Amser: 1pm tan 3:30pm

Sesiynau i bobl anabl yn benodol

Darperir y sesiynau hyn yn benodol ar gyfer pobl ifanc anabl gan gydnabod mewn rhai amgylchiadau y bydd pobl yn elwa’n fwy ar amgylchedd gydag un neu fwy o newidiadau sylweddol yn y ffordd y darperir y gweithgaredd fel arfer. Gyda staff ychwanegol, gall y sesiynau penodol ddarparu mwy o gymorth a/neu strwythur i bobl ifanc sydd ag amhariadau mwy difrifol, a chreu profiad mwy gwerthfawr iddynt.

Sesiynau y bore

  • Dyddiadau: 29 Gorffennaf, 14 Awst
  • Amser: 9:30am tan 12pm

Sesiynau y prynhawn

  • Dyddiadau: 7 Awst, 19 Awst
  • Amser: 1pm tan 3:30pm

Archebwch ar-lein.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 0300 456 95 25 neu anfonwch e-bost at email hamdden.leisure@conwy.gov.uk.

end content