Gweithgareddau Yn Ystod Gwyliau'r Ysgol Ffit Conwy I Guro'r Diflastod!
I archebu lle: 0300 456 95 25 / hamdden.leisure@conwy.gov.uk
Hwyl a Chwaraeon Raced - Sesiynau blasu - Canolfan Tennis James Alexander Barr, Bae Colwyn
(Oedran: 6 – 11 oed)
- Dydd Llun, 12 Chwefror, 12pm – 2pm
- Dydd Gwener 16 Chwefror, 1pm – 3pm
Pris: £3 Darperir yr holl offer
Rhaid archebu lle ymlaen llaw (uchafswm o 18 o blant fesul sesiwn)
Gwersyll Nofio Ffit Conwy yng Nghanolfan Nofio Llandudno
Dydd Llun 12 Chwefror – Dydd Gwener 16 Chwefror
Nod y Gwersyll Nofio yw gwella techneg dulliau a gwella eich dealltwriaeth o nofio fel chwaraeon, gyda hyfforddiant ac arweiniad ymarferol gan ein staff hyfforddi cymwys.
Mae’r sesiynau wedi’u hanelu at blant sydd wedi cychwyn Ton 6/7, Nofio Ffit Iau, Academi, neu Glwb Nofio.Bydd yr wythnos yn cynnwys:
- Hyfforddiant ar y Tir
- Addysg am nofio fel chwaraeon
- Hyfforddiant Nofio mewn pwll 25m
Mae bob sesiwn yn cychwyn am 09:15 i 12:30
£75 ar gyfer dydd Llun i ddydd Gwener
Gwersyll Acwa - Canolfan Hamdden Colwyn
Hanner tymor 12/02/24 - 16/02/24
Cost: £50
Mae Gwersyll Acwa yn addas i nofwyr 8 oed a hŷn a bydd yn canolbwyntio ar ddiogelwch dŵr, sgiliau dŵr, a chymorth cyntaf sylfaenol.
Mae bob sesiwn yn cychwyn am 09:30am i 12:00pm
Gwersi Nofio Dwys - Canolfan Hamdden Abergele
Hanner tymor - 12/02/24 – 16/02/24
Pob dosbarth yn para 30 munud
Cwrs wythnos £20
- Ton 1 & 2: 10.10am – 10.40am | 10.45am - 11.15am | 11.20 - 11.50am
- Ton 3: 10.45am – 11.15am | 11.20am – 11.50am
- Ton 4 & 5: 10.10am – 10.40am
Maent yn berffaith ar gyfer nofiwyr newydd neu rai sydd angen ychydig mwy o ymarfer. Bydd y cyrsiau hyn yn gweithio ar y sgiliau sydd eu hangen i basio pob lefel a magu hyder eich plentyn yn y pwll.
Gwersyll Gymnasteg - Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy, Llanrwst
Dydd Llun 12 Chwefror & Dydd Iau Chwefror 15 2024
Oed 5+
Amser: 10 - 4pm
Dylai plant wisgo dillad addas a dylid clymu gwallt hir yn ôl. Hefyd dewch â sanau a bocs bwyd gyda digon i’w yfed
Pris: £18⠀bob dydd
Trampolinio - Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy, Llanrwst
Dydd Gwener 16 Chwefror 2024 (Hanner tymor)16.30pm - 18.30pm
Oed: 5+
Cost: £6
Dylai plant wisgo dillad addas a dylid clymu gwallt hir yn ôl. Hefyd dewch â hosanau a diod.
Mae ein gweithgareddau yn ystod gwyliau’r ysgol yn gyfle perffaith i gadw eich plant yn actif, eu diddanu a chael hwyl!
I archebu lle: 0300 456 95 25 / hamdden.leisure@conwy.gov.uk