top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Newyddion Gweithgareddau gwyliau'r Pasg
start content

Gweithgareddau gwyliau'r Pasg

School Activities image

Mae gan Ffit Conwy ddigonedd o bethau ar y gweill yn ein canolfannau i gadw’ch plant yn brysur dros wyliau’r Pasg.

Gwersi dwys ar gyfer achubwyr bywyd dibrofiad / ar y traeth - Canolfan Hamdden Colwyn

Mae Gwersi dwys ar gyfer achubwyr bywyd dibrofiad / ar y traeth yn addas ar gyfer nofwyr 8+ oed ac yn canolbwyntio ar ddiogelwch dŵr, sgiliau dŵr, cymorth cyntaf sylfaenol a magu hyder yn y dŵr.

  • Wythnos 1:  Dydd Llun 25 Mawrth tan Dydd Iau 28 Mawrth,  12:30pm tan 3pm
  • Wythnos 2:  Dydd Mawrth 2 Ebrill tan Dydd Gwener 5 Ebrill,  12:30pm tan 3pm

Pris:  £40 yr wythnos

Gwersi nofio dwys - Canolfan Hamdden Abergele

Maent yn berffaith ar gyfer nofiwyr newydd neu rai sydd angen ychydig mwy o ymarfer.  Bydd y cyrsiau hyn yn gweithio ar y sgiliau sydd eu hangen i basio pob lefel a magu hyder eich plentyn yn y pwll.

  • Wythnos 1:  Dydd Llun 25 Mawrth tan Dydd Iau 28 Mawrth
  • Wythnos 2:  Dydd Mawrth 2 Ebrill tan Dydd Gwener 5 Ebrill

Pob dosbarth yn para 30 munud:

  • Ton 1 a 2:  10:10am tan 10:40am,  10:45am tan 11:15am,  11:20am tan 11:40am
  • Wave 3:  10:45am tan 11:15am,  11:20am tan 11:50am
  • Wave 4 a 5:  10:10am tan 10:40am

Pris:  £16 yr wythnos

Gwersi nofio dwys: dechreuwyr hŷn - Canolfan Hamdden Abergele

Ar gyfer dechreuwyr hŷn, oed 8+.

  • Wythnos 1:  Dydd Llun 25 Mawrth tan Dydd Iau 28 Mawrth
  • Wythnos 2:  Dydd Mawrth 2 Ebrill tan Dydd Gwener 5 Ebrill

Pob dosbarth yn para 30 munud:

  • 10:10am tan 10:40am,  10:45am tan 11:15am,  11:20am tan 11:50am

Pris:  £16 yr wythnos 

Gwersyll gymnasteg - Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy

Dylai plant wisgo dillad addas a dylid clymu gwallt hir yn ôl.  Hefyd dewch â sanau a bocs bwyd gyda digon i’w yfed.  Oed 5+.

Mwy o ddyddiadau wedi eu hychwanegu:

  • Dydd Llun 25 Mawrth,  10am tan 4pm
  • Dydd Iau 28 Mawrth,  10am tan 4pm
  • Dydd Iau 4 Ebrill,  10am tan 4pm

Pris: £18

Trampolinio - Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy

Dylai plant wisgo dillad addas a dylid clymu gwallt hir yn ôl.  Hefyd dewch â sanau a bocs bwyd gyda digon i’w yfed.  Oed 5+.

  • Dydd Gwener 5 Ebrill,  2:30pm tan 4:30pm

Pris:  £6

Hwyl a chwaraeon raced - Canolfan Tennis James Alexander Barr

Sesiynau blasu.  Darperir yr holl offer.

  • Dydd Llun 25 Mawrth,  12pm tan 2pm:  Oed 6 - 10
  • Dydd Llun 25 Mawrth,  3pm tan 4pm:  Oed 11 - 15
  • Dydd Llun 25 Mawrth,  4pm tan 5pm:  Oed 11 - 15
  • Dydd Gwener 5 Ebrill,  1pm tan 3pm:  Oed 6 - 10
  • Dydd Gwener 5 Ebrill,  4pm tan 5pm:  Oed 11 - 15
  • Dydd Gwener 5 Ebrill,  5pm tan 6pm:  Oed 11 - 15

Pris:  £4 neu am ddim i rai ag Aelodaeth Iau (11 - 15 oed)

Mae ein gweithgareddau yn ystod gwyliau’r ysgol yn gyfle perffaith i gadw eich plant yn actif, eu diddanu a chael hwyl!

I archebu lle ffoniwch 0300 456 9525 neu anfonwch e-bost at hamdden.leisure@conwy.gov.uk.

end content