Pam na allaf ddefnyddio esgyll, masgiau neu snorceli?
- Gall masgiau gyda phaneli wyneb gwydr achosi anafiadau i’r llygad a’r wyneb wrth daro arwyneb y dŵr neu nofwyr eraill, a gall achosi perygl pellach wrth i wydr toredig aros ar waelod y pwll.
- Mae pob masg tanddwr yn cuddio’r trwyn a allai achosi panig ymhlith defnyddwyr nad ydynt wedi eu hyfforddi os ydynt yn llyncu dŵr yn gyflym a chanfod na allant anadlu drwy eu trwynau, mae hyn wedi arwain at ddamweiniau ar sawl achlysur gyda defnyddwyr amhrofiadol a heb eu hyfforddi.
- Mae masgiau sy’n ffitio dros yr wyneb yn cyfyngu ar olwg y sawl sy’n eu gwisgo, yn aml gan ei gyfyngu i sianel gul yn union o’u blaenau. Gall cyfyngu ar olwg fel hyn achosi damweiniau ac anafiadau i ddefnyddwyr eraill yn y pwll pan fo’r sawl sy’n eu gwisgo yn gwrthdaro’n ddiofal gyda nhw neu’n achosi iddynt gymryd camau i osgoi hyn.
- Gall mathau penodol o snorceli arwain at anawsterau anadlu os nad ydynt yn cael eu defnyddio’n gywir.
- Mae’r defnydd o esgyll yn achosi perygl i ddefnyddwyr eraill drwy’r posibilrwydd o anaf damweiniol a achosir gan wrthdrawiad gyda defnyddwyr eraill.
- Ystyrir y math hwn o offer yn offer arbenigol ac mae angen hyfforddiant i’w ddefnyddio’n gywir.
- Gall fod yn anodd i achubwyr bywydau pyllau nofio gyfathrebu gyda’r rhai sy’n defnyddio’r math hwn o offer.
- Mae’r defnydd o badlau llaw wedi eu gwahardd yn llwyr o Byllau Nofio Conwy.
Mae’r wybodaeth hon yn ymwneud ag amseroedd nofio achlysurol nad ydynt yn y rhaglen. Mae rhai o’n pyllau yn darparu sesiynau wedi eu rhaglennu lle caniateir y math hwn o offer. Cysylltwch â’ch pwll nofio lleol i gael rhagor o wybodaeth.