Title

Text
cy Cartref Nofio Advice Policies and Procedures Prawf Gallu Nofio i Blant
start content

Prawf Gallu Nofio i Blant

Os oes gan achubwr bywydau bryderon ynglŷn â gallu nofio plentyn a’i fod eisiau nofio yn y pen dwfn mae gan y cyngor safonau a fabwysiadwyd gan Ddyfarniad Nofio Pwll ASA / CIMSPA i asesu gallu plentyn i nofio.

Os yw plentyn yn cyrraedd y safonau a restrir isod fe ganiateir iddynt nofio yn y pen dwfn*.

  • Neidio o ochr y pwll i ddŵr ar ddyfnder o 1.5m neu fwy fel bod y pen yn suddo’n llwyr.
  • Dal ystum arnofio madarch wedi suddo am 10 eiliad
  • Troedio’r dŵr am funud
  • Nofio hyd y pwll unwaith

* Sylwer mai dim ond ar gyfer ymweliad unigol y mae’r safon yn berthnasol ac nid yw’n galluogi plentyn i nofio yn y pen dwfn yn ystod ymweliadau yn y dyfodol.  Os penderfynir fod angen hynny fe all achubwr bywydau ofyn i blentyn ailadrodd asesiad y safon yn ystod ymweliadau yn y dyfodol.

Mae gan gwsmeriaid 16 oed gyfrifoldeb personol i sicrhau nad ydynt yn rhoi eu hunain mewn perygl tra’n nofio.  Os oes gan achubwr bywydau bryderon dros allu oedolion i nofio mae’n bosibl y gofynnir iddynt beidio â mynd i’r pen dwfn.

end content