Gwybodaeth am Wersi Nofio
Mae’r Cwestiynau Cyffredin hyn yn ymwneud â Dysgu Nofio Cymru sef y fframwaith a ddilynir yn ein gwersi nofio.
- Faint o amser y bydd yn ei gymryd i fy mhlentyn ddysgu nofio?
Mae’n amhosibl dweud! Fel unrhyw sgiliau newydd rydym yn eu dysgu, mae gwahanol bobl yn cymryd cyfnodau gwahanol o amser ac mae rhai’n canfod y sgiliau’n haws i’w dysgu nac eraill. Os yw eich plentyn yn profi mwy o amser yn amgylchedd y pwll nofio y tu allan i’r gwersi mae yna debygrwydd uchel y byddant yn datblygu’n gyflymach gan y byddant yn cael cyfleoedd ychwanegol i ymarfer ac yn y cam cynnar byddant yn cynyddu eu hyder gyda ffrindiau agos a theulu o’u cwmpas. Argymhellir fod pob canolfan yn cofnodi’r dyddiad y bydd nofiwr yn dechrau pob ton ac os oes angen yn nodi ffyrdd o gefnogi unrhyw nofwyr sydd mewn unrhyw Don yn hirach na 40 wythnos.
- Faint fydd yn ei gostio i mi i archebu lle i fy mhlentyn mewn gwersi nofio?
Bydd pris y gwersi yn amrywio o ddarparwr i ddarparwr ac yn dibynnu ar p’un ai ydych chi eisiau archebu lle mewn grŵp, grŵp bach neu wersi un i un. Bydd rhai darparwyr yn trefnu eu rhaglen mewn blociau o wersi yn amrywio o dymhorau ysgol i flociau 8 - 12 wythnos ac mae mwy a mwy o ddarparwyr nawr yn cynnig rhaglenni parhaus sy’n weithredol 50 wythnos y flwyddyn a gellir talu amdanynt gyda debyd uniongyrchol.
- Beth sydd ei angen ar fy mhlentyn?
Fe all sefydliadau gwahanol fod â gwahanol ofynion ynglŷn â pha offer sydd ei angen. Bydd angen dillad nofio priodol ar eich plentyn – i ferched yn ddelfrydol siwt nofio un darn ac i fechgyn yn ddelfrydol tryncs neu siorts sy’n ffitio’n dynn. Gall dillad nofio ffasiynol, fel siorts llydan, edrych yn ffasiynol ond mewn gwirionedd fe allant ei gwneud yn llawer anoddach i blant ddysgu nofio gan eu bod yn cynyddu’r gwrthiant yn y dŵr. Mae’n bosibl y bydd yn well gan rai plant wisgo gogls tra’u bod yn y pwll nofio, gall hyn fod yn hanfodol i rai pobl sy’n gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd gan y gallwch gael gogls ar bresgripsiwn. Mae rhai pyllau nofio yn mynnu fod pob nofiwr yn gwisgo het nofio tra’u bod yn y pwll ac argymhellir fod nofwyr un ai yn clymu eu gwallt yn ôl yn ddiogel neu’n gwisgo het nofio - gall hyn leihau unrhyw darfu neu rwystredigaeth wrth i wallt fynd i’w hwynebau tra’u bod yn nofio. Bydd y rhan fwyaf o sefydliadau yn darparu unrhyw offer sydd ei angen yn ystod y sesiwn, fel cymhorthion arnofio, teganau a fflotiau. Ond os oes gennych chi eich offer eich hun (fel asgell nofio neu gymhorthion arnofio sefydlog eraill) gwiriwch gyda’r sefydliad a ellir ei ddefnyddio. Argymhellir hefyd fod gan nofwyr botel ddiod yn cynnwys dŵr neu sgwosh gwan yn ystod eu gwers gan fod amgylcheddau pyllau nofio fel arfer yn gynnes ac mae’n bwysig eu bod yn yfed digon. Hefyd cofiwch dywel er mwyn sychu a chynhesu ar ôl y sesiwn ac unrhyw eitemau ymolchi i’w defnyddio yn y gawod wedyn. Yn ystod y misoedd oer argymhellir gwisgo côt a het ar ôl nofio i helpu i leihau datblygu unrhyw salwch ac i geisio cadw tymheredd y corff yn gyson.
- A oes angen i fy mhlentyn wisgo cap nofio?
Nid yw’n orfodol i wisgo cap nofio ond fe all pyllau unigol fod â gwahanol reoliadau. Fe all fod o fudd i wisgo cap gan y gall wella profiad nofio eich plentyn gan fod gwallt hir yn drwm a gall wneud nofio yn fwy anodd. Os yw eich plentyn yn gweithio ar anadlu a throi’r pen, fe all ei gwneud yn llawer mwy anodd iddynt gymryd eu gwynt. Rydym yn argymell eich bod yn plethu’r gwallt neu’n tynnu’r gwallt yn ôl yn gynffon ceffyl os nad yw’r plentyn yn gwisgo cap nofio.
- Beth os yw fy mhlentyn yn crïo neu’n ofnus?
Mae’n gyffredin iawn i blentyn grïo neu fod yn ofnus wrth ddechrau rhywbeth newydd. Bydd yr holl athrawon wedi eu hyfforddi i ymdrin â’r disgyblion mwyaf ofnus a dylai fod yna rywun wrth law bob amser i helpu os oes angen. Rydym yn argymell y defnydd o dechnegau syml i dynnu sylw; teganau, caneuon a gemau i helpu i dawelu a rhoi sicrwydd iddynt ac ni fyddwn fyth yn rhoi nofiwr newydd o dan y dŵr. Fe all plentyn grïo am nifer o wythnosau yn olynol, ond byddwch yn amyneddgar. Mae cysondeb a chanmoliaeth yn allweddol i gynnydd eich plentyn. Os oes angen cymorth arnoch i gael eich plentyn i’r pwll, gofynnwch i’n staff am gymorth a sicrhewch eich bod yn rhoi unrhyw wybodaeth i ni a fydd yn ein helpu ni i ddod i adnabod eich plentyn yn well (hoff deganau, caneuon arbennig, arwyr ayb). Fe fyddem yn argymell eich bod yn mynd â’ch plentyn i’r pwll lle maent yn cael gwersi cyn y wers fel eu bod yn gyfarwydd â’r amgylchedd a pho amlaf y gallwch fynd â nhw i’r pwll cyn cychwyn y gwersi yna’r hawsaf fydd y pontio i ddysgu sgiliau newydd.
- Beth ddylai fy mhlentyn ei wneud i ddod yn barod ar gyfer eu sesiwn? Cyn y sesiwn fe ddylent newid i’w dillad nofio, mynd i’r toiled, tynnu unrhyw emwaith a chael cawod i olchi unrhyw fudreddi oddi ar eu cyrff – cofiwch fod nifer o bobl yn mwynhau’r pwll nofio ac mae angen i bob defnyddiwr ddangos lefelau uchel o hylendid personol wrth ddefnyddio’r cyfleuster. Yn ddelfrydol dylai’r plentyn fod yn gyfarwydd â’r amgylchedd gan wybod lle bydd eu gwers yn cael ei gynnal a hefyd lle bydd yr oedolyn sydd gyda nhw yn ystod y wers er mwyn rhoi sicrwydd iddynt. Ni argymhellir cael pryd mawr cyn mynd i nofio neu gymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch corfforol.
- Beth os nad yw fy mhlentyn yn teimlo’n dda?
Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin, ond os oes gan eich plentyn symptomau tebyg i ffliw fel twymyn, chwydu neu os yw â phroblemau stumog neu dreulio, ni ddylech ddod â nhw i’r wers.
- Pa gymwysterau ddylai fod gan athrawon i ddarparu Fframwaith Dysgu Nofio Cymru?
Bydd gan yr holl Athrawon Nofio sy’n gweithio gyda rhaglen Dysgu Nofio gymhwyster cydnabyddedig. Yn ddelfrydol bydd gan athrawon dystysgrif Athro Nofio Lefel Dau Swim England sy’n galluogi unigolyn i ddarparu gwers heb oruchwyliaeth, neu bydd ganddynt dystysgrif Cynorthwy-ydd (Dysgu) Nofio Lefel Un ASA lle byddant yn darparu sesiynau o dan oruchwyliaeth uniongyrchol unigolyn gyda thystysgrif Lefel Dau. Mae’r holl athrawon yn destun gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â’r ddeddfwriaeth bresennol a dylent fynychu hyfforddiant Diogelu ac Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc bob tair blynedd.
- A fydd yr athro/athrawes yn dysgu yn y dŵr neu o ymyl y pwll?
Mae dysgu o ymyl y pwll yn darparu’r safle gorau i oruchwylio’r grŵp cyfan yn nhermau diogelwch ac i ddarparu adborth priodol ar berfformiad pob dysgwr o fewn y grŵp. Mae’n rhaid i athrawon leoli eu hunain fel eu bod nid yn unig yn gallu cael eu gweld a’u clywed, ond fel y gallant wylio’r dosbarth cyfan bob amser. Cydnabyddir mewn rhai amgylchiadau y bydd gweithredwr y pwll neu’r athro/athrawes wedi asesu’r risg a gallant deimlo ei bod yn fwy priodol i ddysgu yn y dŵr. Dim ond ar ôl cynnal asesiad risg a rhoi ystyriaeth ofalus i’r holl ffactorau posibl y dylid ystyried yr arfer hwn. Ymhlith y ffactorau i’w hystyried mae dyfnder y pwll, gallu dysgwyr, oed dysgwyr a’r defnydd o gymhorthion arnofio a chymorth achub bywyd. Mae’n rhaid i’r athro/athrawes allu gweld yr holl ddysgwyr yn glir bob amser a dylent fod yn ddigon agos i ddarparu dulliau priodol o gymorth â llaw pe bai angen hynny. Yn y modd hwn fe all fod yn ymarferol i oruchwylio hyd at chwe dysgwr, gallai fod angen lleihau’r cyfraddau i sicrhau diogelwch a dysgu effeithiol. Ni ddylid ystyried cyfraddau uwch na hyn oni bai fod yna gymorthyddion ychwanegol ar gael yn y dŵr. (Cyfeirir at hyn yn: ‘Goruchwyliaeth Ddiogel ar gyfer Dysgu Nofio a Hyfforddi)
- Sut bydd cynnydd fy mhlentyn yn cael ei asesu a’i wobrwyo?
Dylai canlyniadau Fframwaith Dysgu Nofio Cymru gael eu hasesu yn barhaus wrth i’ch plentyn fynychu gwersi. Ni ddylai fod yna asesiad terfynol fodd bynnag i symud i’r lefel nesaf, mae angen i’r holl ganlyniadau gael eu cyflawni yn ddigonol ac yn gyson. Wrth i’ch plentyn symud drwy’r rhaglen bydd eu llwyddiannau’n cael eu gwobrwyo gyda gwobrau gwahanol ar ffurf bathodynnau, tystysgrifau ac, yn ddibynnol ar eich sefydliad, rhyngweithio ar-lein graddol os yw darparwr y gwersi yn defnyddio technoleg. Yn dibynnu ar y sefydliad mae’n bosibl y byddant yn dewis cyflwyno gwobrau eraill i gydnabod llwyddiannau ac i wella profiad eich plentyn a chynyddu cymhelliant a hyder.
- Pam y dylai fy mhlentyn gael ei ystyried i fod yn nofiwr diogel?
Mae sicrhau fod eich plentyn yn dysgu nofio o oed ifanc nid yn unig yn darparu buddion iechyd a chymdeithasol diddiwedd ond gallai hefyd un diwrnod achub eu bywyd. Gwaetha’r modd boddi yw’r drydedd ffurf fwyaf cyffredin o hyd o farwolaeth ddamweiniol mewn plant, ac felly mae dysgu nofio wir yn sgil hanfodol mewn bywyd. Yr hyn sy’n wych am nofio yw y gall plant o unrhyw oed, maint neu allu gymryd rhan – ac mae’n fwy hygyrch i blant gydag anableddau na’r rhan fwyaf o’r campau eraill. Ond nid dyna’r cyfan, gan fod dysgu nofio yn:
• Cadw calon ac ysgyfaint eich plentyn yn iach, yn gwella eu cryfder a’u hyblygrwydd, yn cynyddu eu stamina a hyd yn oed yn gwella eu cydbwysedd a’u hystum
• Yn rhoi mwy o gyfleoedd i’ch plentyn wneud ffrindiau a meithrin hyder
• Yn agor y drws i gampau a gweithgareddau diddiwedd eraill, gan gynnwys nofio gyda dolffiniaid, sgwba-blymio mewn lleoliadau ecsotig, rhwyfo a hwylio neu hyd yn oed dod yn bencampwr Olympaidd
• Mae’n sgil am oes ac unwaith y caiff ei ddysgu prin iawn y caiff ei anghofio – mae yna ddigwyddiadau i nofwyr sydd dros 100 oed hyd yn oed
• Gall ddarparu heriau i’ch plentyn
- Mae gan fy mhlentyn anabledd. A oes modd iddynt gymryd rhan yn y gwersi hyn?
Oes! Rhaid i’r holl ddarparwyr ac athrawon sicrhau fod y gwersi yn gynhwysol i bawb. Nod Fframwaith Dysgu Nofio Cymru yw i sicrhau y dysgir y sgiliau dŵr sylfaenol i bob nofiwr, waeth beth fo’i allu neu ei anabledd, sgiliau y gallant eu defnyddio gyda pha bynnag weithgaredd dŵr maent yn dymuno ei gyflawni. Rhaid i ddarparwyr ac athrawon sicrhau y darparir ar gyfer cyfranogwyr gydag anabledd neu anghenion unigol a bod sesiynau’n cael eu haddasu yn ôl yr angen; mae hyn yn cynnwys cael athrawon cynorthwyol yn y gwersi os oes angen. Dylai dyraniad grŵp gael ei wneud drwy asesiad unigol a gan ystyried anghenion unigol ac nid dosbarthiad ambarél; er enghraifft darparir yn well ar gyfer rhai cyfranogwyr gydag anabledd yn y brif raglen tra gallai fod angen darpariaeth bwrpasol neu gefnogaeth ychwanegol ar eraill. Dylid cydnabod na fydd rhai cyfranogwyr ond yn gallu cyflawni canlyniadau cyfyngedig o ganlyniad i’w hanghenion unigol. Os nad yw nofiwr yn gallu cwblhau sgil benodol yn gorfforol o ganlyniad i anabledd corfforol, er enghraifft gwahaniaeth yn hyd y breichiau neu’r coesau, dylid defnyddio disgresiwn priodol i sicrhau fod cynnydd yn parhau i gael ei wneud i sicrhau cymhwysedd uchaf posibl y nofiwr yn y dŵr. Felly mae’n hanfodol fod llwybrau gadael priodol yn cael eu nodi ar gyfer y nofwyr hyn a’u bod yn gwneud cynnydd drwy’r llwybr yn unol â’u hanghenion a’u cymhelliant. Yn dilyn y gwersi rydym yn annog nofwyr gydag anableddau i fynd ymlaen i’w clwb nofio lleol. Mae yna lwybr Paralympaidd a gefnogir gan Nofio Cymru ar gyfer y nofwyr hynny gydag amhariadau corfforol, gweledol a deallusol a fyddai’n hoffi mynd ymlaen i faes nofio cystadleuol yn dilyn eu gwersi.
- Beth yw Fframwaith Dysgu Nofio Cymru?
Mae Fframwaith Dysgu Nofio Cymru yn rhaglen a argymhellir yn genedlaethol ar gyfer darparu gwersi dysgu nofio. Mae’r Fframwaith yn cynnwys yr holl sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer cymryd rhan mewn gweithgareddau a disgyblaethau dŵr, o ddosbarthiadau meithrin hyder yn y dŵr i Oedolion a Phlant i gyfranogiad cystadleuol cynnar mewn clybiau dŵr a ffitrwydd. Mae’r rhaglen yn ymgorffori yr holl sgiliau symud a dŵr sylfaenol cydnabyddedig, y pedwar strôc nofio, goroesi personol a diogelwch yn y dŵr. Nod Fframwaith Dysgu Nofio Cymru yw sicrhau y gall pob plentyn ddysgu nofio waeth beth fo’r ffactorau sy’n gwahaniaethu neu eu hamgylchiadau a’u bod felly yn cael y cyfle i ddewis gweithgareddau dŵr fel rhan o ffordd o fyw iach.
- Sut mae Fframwaith Dysgu Nofio Cymru yn cyd-fynd â’r datblygiad dŵr hirdymor / y Llwybr Cefnogi Datblygiad Athletwyr?
Er mwyn creu cenedl o bobl heini ac iach mae’n rhaid i bob plentyn gael sylfaen gadarn mewn sgiliau sylfaenol (hanfodol) o ran symudiad, chwaraeon a dŵr y gallant adeiladu arnynt yn ddiweddarach yn eu bywydau, gelwir y sylfaen hon yn ‘Lythrennedd Corfforol’. Mae ymchwil yn dangos heb gynnwys a datblygu sgiliau symud hanfodol, bydd nifer o blant a phobl ifanc yn troi oddi wrth weithgarwch corfforol a chwaraeon ac yn troi at ddewisiadau nad ydynt yn egnïol a/neu nad ydynt yn iach yn ystod eu hamser hamdden.
Dechrau Actif: bechgyn a merched o’u geni hyd at tua 6 mlwydd oed.
Yn y cam hwn dylai gweithgarwch corfforol fod yn hwyl, yn ddiogel ac yn ysgogol gan ganolbwyntio ar:
• Sgiliau symud sylfaenol cynnar
• Chwarae rhydd
• Gweithgareddau a arweinir gan y plentyn ac a arweinir gan yr athro/athrawes
• Annog a chymell sgiliau newydd
Hanfodion: merched tua 6 – 8 oed a bechgyn tua 6 i 9 oed
Bydd y cam hwn yn parhau i gynnwys gweithgareddau heb strwythur yn ogystal â chyflwyno a datblygu sgiliau dŵr craidd. Dylai datblygu sgiliau sylfaenol barhau i gynnwys chwarae anffurfiol, ond hefyd gweithgareddau hwyl sydd â mwy o strwythur a sy’n datblygu llythrennedd corfforol. Yn ystod y cam hwn mae’n bwysig canolbwyntio ar yr isod:
• Gweithgareddau llawn hwyl sy’n strwythuredig
• Datblygu sgiliau symud sylfaenol
• Datblygu sgiliau dŵr craidd
Dysgu Hyfforddi: merched tua 8-11 oed a bechgyn tua 9-12 oed.
Dyma lle dechreuir canolbwyntio mwy ar ddatblygu sgil benodol sydd ei hangen ar gyfer nofio uwch a champau dŵr eraill. Yn ystod y cam hwn mae’n bwysig canolbwyntio ar:
• Hwyl, mwynhad a chyfranogiad
• Datblygu sgiliau symud sy’n benodol i chwaraeon
• Ymarfer technegol a datblygu sgiliau
- Pam y gallai nofwyr fod yn chwarae gemau yn hytrach na nofio hyd neu led y pwll?
Drwy ddarparu gwersi mewn modd pleserus a sy’n llawn hwyl, mae darparwyr ac athrawon nofio yn dechrau adeiladu’r sylfeini ar gyfer cyfranogiad gydol oes mewn gweithgareddau dŵr. Mae Nofio Cymru a Fframwaith Dysgu Nofio Cymru yn hyrwyddo’r defnydd o’r dull darparu ‘dysgu trwy chwarae’ y canfuwyd, drwy ymchwil addysgol, ei fod y dull mwyaf effeithiol i ddysgu plant. Dylai dysgu nofio fod yn hwyl ac yn bleserus i’r cyfranogwr ac ar gyfer yr athro/athrawes. Caiff athrawon eu hannog i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gemau, gweithgareddau a sefyllfaoedd, wedi eu cyfyngu gan eu creadigrwydd yn unig, i gyflawni’r canlyniadau. Felly mae’n bosibl y byddwch yn gweld eich plentyn yn chwarae gemau ac yn symud yn y pwll mewn ffyrdd gwahanol i nofio hyd a lled y pwll fel y gwnaed yn draddodiadol. Drwy addasu’r tasgau a gaiff eu darparu, sut y defnyddir yr amgylchedd a’r gofod sydd ar gael a sut y caiff yr offer ei ddefnyddio o fewn sesiwn, caiff y plant eu herio mewn ffyrdd gwahanol ac mae’n bosibl y tynnir eu sylw wrth gyflawni tasg nad oeddent yn sylweddoli eu bod yn gallu ei chyflawni. Drwy ddefnyddio’r dull cyflawni hwn, bydd plant yn cael profiad dysgu nofio cadarnhaol a fydd yn helpu i wireddu un o ddyheadau Chwaraeon Cymru a Nofio Cymru: ‘Pob Plentyn yn Gwirioni ar Chwaraeon am Oes’.
- Beth sy’n digwydd os nad yw nofiwr, erbyn diwedd y gyfres o wersi, wedi cyflawni’r holl ganlyniadau maent wedi bod yn gweithio arnynt yn y dosbarth?
Rhaid i’r plentyn gwblhau’r holl ganlyniadau er mwyn cael dyfarniad Swigod, Sblash, Ton, Sgiliau, Cymhwysedd Dŵr Cymru neu Bellter. Os yw plentyn yn parhau i’w chael yn anodd i gwblhau’r holl ganlyniadau dros amser sylweddol dylai darparwr y gwersi, yr athro/athrawes a’r rhiant drafod cynllun cymorth unigol.
- Beth y gallaf ei wneud i helpu fy mhlentyn?
Y cynharaf y daw plentyn yn gyfarwydd gydag amgylchedd y dŵr a bod yn y dŵr ac o’i amgylch yna y gorau. Hyd yn oed os nad ydych yn nofiwr cryf bydd mynd â’ch plentyn i’r pwll a chwarae a chael hwyl yn y dŵr yn eu helpu i ddatblygu eu hyder a byddant yn mwynhau’r profiadau cadarnhaol y gall y dŵr eu cyflwyno iddynt. Yn y cartref, anogwch eich plentyn i gael bath a chwarae yn y dŵr. Anogwch nhw i wlychu eu gwallt a chyflwynwch nhw i’r arfer o roi eu hwyneb yn y dŵr.
- Faint o blant ddylai fod yn y grŵp?
Gall hyn amrywio yn ôl darparwr y rhaglen Dysgu Nofio, fodd bynnag mae Nofio Cymru yn argymell ar gyfer y rhai nad ydynt yn nofio a dysgwyr – plant ifanc fel arfer o oed ysgol gynradd neu oedolion sy’n dysgu nofio, ni ddylai’r gyfradd disgybl:athro fod yn fwy na 12:1. Mae’r gyfradd hon wedi ei seilio ar ofynion diogelwch yn hytrach nag ansawdd y ddarpariaeth (wedi ei gymryd o’r ddogfen Goruchwyliaeth Ddiogel ar gyfer Dysgu a Hyfforddi).
- A ddyliwn i chwilio am wersi preifat neu grŵp?
Yn dibynnu ar y darparwr gwersi o’ch dewis fe allai fod yna wahanol ddewisiadau ar gael i chi ddewis ohonynt ar gyfer eich plentyn. Fe allai fod yna wersi un i un, gwersi grwpiau bach a gwersi grŵp. Eich dewis chi yw pa opsiwn rydych yn ei ddewis ond fe fydd yna wahaniaethau mewn pris. Bydd hefyd yn dibynnu ar eich plentyn pa ddull darparu fydd yn eu galluogi i ffynnu. Gall gwersi un i un fod yn ddefnyddiol pan fo yna sgil neu ganlyniad penodol y maent yn ei gael yn anodd. Mae gwersi grŵp yn cynnig cyfle arall i blant i gynyddu eu rhyngweithio cymdeithasol gyda phlant gwahanol nad ydynt o reidrwydd yn mynd i’r ysgol gyda nhw a gallant ddysgu a datblygu o hyn. Mae yna ganllawiau ar gyfer y nifer o blant ddylai fod mewn grŵp ac felly fe allwch fod yn sicr y bydd eich plentyn yn cael yr holl sylw maent ei angen gan hyfforddwr y dosbarth.
- Pa mor gynnar ddylai fy mhlentyn ddysgu nofio?
Gallwch fynd â’ch babi i nofio o unrhyw oedran, cyn ac ar ôl iddynt gael eu brechu. Nid oes gwahaniaeth os nad ydynt wedi cwblhau eu cwrs o frechiadau eto. Y cynharaf y bydd plentyn yn profi bod mewn dŵr ac o’i amgylch yna yr hawsaf fydd hi iddynt ddatblygu sgiliau dŵr. Yr hyn sy’n wych am nofio yw y gallwch gyflwyno babi i’r dŵr ac unwaith byddant wedi datblygu eu sgiliau gallant barhau i nofio am weddill eu hoes.
- Pam fod angen i fy mhlentyn ddysgu pob un o’r pedwar strôc?
Caiff pedwar strôc cydnabyddedig eu defnyddio i symud drwy’r dŵr. Mae gwahanol bobl yn naturiol yn canfod ambell strôc yn haws i’w ddysgu nac eraill. Mae angen dysgu pob un o’r pedwar strôc i ddangos cymhwysedd a hyder yn y dŵr.
- Beth yw adrannau Fframwaith Dysgu Nofio Cymru?
Mae yna bedair prif adran yn Fframwaith Dysgu Nofio Cymru:
• Swigod – mae Swigod yn rhoi cyflwyniad i’r amgylchedd dŵr â chefnogaeth lawn ar gyfer babanod a phlant ifanc ac oedolyn gyda nhw, ac mae wedi'i anelu'n benodol at blant 0-3 oed.
• Sblash – mae fframwaith Sblash yn annog plant ifanc i ddarganfod yr amgylchedd dŵr yn annibynnol a dan arweiniad er mwyn datblygu eu hyder yn y dŵr. Mae wedi’i anelu’n benodol at blant 3 oed a hŷn.
• Ton – y prif faes ‘Dysgu Nofio’. Caiff y sgiliau nofio a dŵr angenrheidiol eu dysgu i blant o 4/5 oed fel arfer er mwyn eu dysgu i nofio, sgiliau i gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr eraill fel polo dŵr a hefyd fe ddysgir sgiliau diogelwch dŵr hanfodol iddynt fel eu bod yn dysgu sut i fod yn ddiogel mewn dŵr ac o’i amgylch.
• Sgiliau – Mae’r rhan hon o’r llwybr yn ymdrin â disgyblaethau dŵr amrywiol nofio, polo dŵr, deifio, nofio cydamserol ac achub bywydau. Caiff sgiliau a ddysgir yn y Tonnau eu datblygu gyda phwyslais penodol ar fod yn benodol o ran disgyblaeth. Gall y dosbarthiadau hyn un ai gael eu darparu mewn rhaglen Dysgu Nofio neu yn adran gyflwyno clybiau.
- Sut y bydd cysondeb yn cael ei sicrhau pan fydd athrawon yn asesu?
Mae adnoddau athrawon yn rhoi manylion am y safonau disgwyliedig ar gyfer pasio dyfarniad. Mae fideos ar gael i athrawon eu gwylio i’w helpu gyda dehongli’r maes prawf asesu. Bydd yr holl athrawon sy’n darparu Fframwaith Dysgu Nofio Cymru wedi ymgymryd â seminar DPP i sicrhau fod yr holl ddarparwyr yn ymwybodol o’r gofynion o ran darparu a’r safonau asesu. Mae gan y darparwr ran i’w chwarae o ran cefnogi cysondeb rhwng safleoedd ac athrawon er enghraifft drwy gynnal cyfarfodydd i athrawon, darparu hyfforddiant mewnol a chefnogi athrawon i gael hyfforddiant DPP sy’n berthnasol i’w hanghenion.
- Pam dewis Fframwaith Dysgu Nofio Cymru?
Drwy ddewis Fframwaith Dysgu Nofio Cymru gall darparwyr a rhieni ddisgwyl rhaglen amrywiol ac felly sesiynau gwell sy’n cynnal diddordeb plant yn y broses ddysgu nofio. Mae Dysgu Nofio Cymru yn rhaglen a gydnabyddir yn genedlaethol ac mae wedi ei dylunio gan arbenigwyr yn y diwydiant ac mae’n cynnwys pob oed a gallu. Mae’r llwybr yn ymgorffori yr holl ddisgyblaethau dŵr ac yn cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i blant.