Title

Text
cy Cartref Nofio Advice Policies and Procedures Ymddygiad cyffredinol yn y pwll
start content

Ymddygiad cyffredinol yn y pwll

Wrth ddefnyddio ein pyllau gofynnwn i chi ystyried eich galluoedd nofio eich hun.  Er budd Iechyd a Diogelwch rhowch wybod i staff y Dderbynfa a’r Achubwyr Bywydau os ydych yn dioddef o salwch/cyflwr meddygol a allai effeithio ar eich diogelwch o fewn y pwll.


Os oes gan y pwll sleidiau dŵr neu unrhyw nodweddion eraill, yna dylech ufuddhau i’r arwyddion perygl gan ddilyn cyfarwyddiadau staff y pwll.

Os ydych wedi dioddef dolur rhydd, yna peidiwch â defnyddio’r pyllau nofio am 48 awr wedi hynny. Os ydych wedi cael diagnosis o cryptosporidiosis, ni ddylech nofio am 14 diwrnod ar ôl i’r dolur rhydd ddod i ben. Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r toiled a’r cawodydd cyn i chi nofio.  

Ni ddylech ddal eich gwynt o dan y dŵr am gyfnodau hir ac ni ddylech fyth wneud hynny wrth arnofio â’ch wyneb tuag i lawr.

Dewch i adnabod y pwll cyn i chi nofio.  Sylwch ar y gwahanol barthau dyfnder ac edrychwch ar rybuddion a phosteri i weld a oes unrhyw beryglon posibl e.e. sianelau cludo allan o’r pwll, teganau gwynt yn y pwll.

Gwrandewch ar staff y pwll.  Nid ydynt yno i ddifetha eich hwyl ond i sicrhau eich bod yn ddiogel.  Darllenwch ac ufuddhewch i unrhyw rybuddion diogelwch neu bosteri a allai gael eu harddangos o amgylch y pwll - maent yno i sicrhau eich diogelwch chi.

end content