Creche
 
Rydym ni’n darparu crèche i blant rhwng 2 fis oed hyd at eu pen-blwydd yn 5 oed.  - Canolfan Hamdden Colwyn a Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno.
- Oherwydd cymhareb staffio gall y crèche fod yn brysur ac felly fe’ch cynghorir i archebu lle ar gyfer eich plentyn.Os ydych chi'n Aelod Ffit Conwy dilys, bydd eich plentyn cyntaf am ddim, a bydd angen talu am yr ail blentyn wrth archebu. 
 
- Gellir archebu lle 3 diwrnod ymlaen llaw
 
- Rhaid i’r holl rieni gofrestru eu plant â staff y crèche wrth gyrraedd / cyn gadael.   Rhaid i rieni fod ar y safle bob amser.
 
- Mae holl staff canolfannau hamdden Ffit Conwy yn gorfod pasio’r profion diogelu priodol.
 
- Os oes gan eich plentyn salwch neu gyflwr heintus neu unrhyw feirws y sonnir amdano yn amodau a thelerau’r crèche, rhaid ichi beidio â dod â’ch plentyn i’r ganolfan. Yn ogystal â hynny, ni ddylech ddod â nhw i’r ganolfan cyn pen 48 awr ers y pwl diwethaf o salwch a/neu ddolur rhydd.
 
 
Oriau Agor y Crèche
Canolfan Hamdden Colwyn
- Dydd Llun: 9:00am - 10:30am
 
- Dydd Mawrth: 9:00am - 10:30am
 
- Dydd Mercher: 9:00am - 10:30am
 
- Dydd Iau Thursday: 9:00am - 10:30am
 
- Dydd Gwener: 9:00am - 10:30am
 
Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno
- Dydd Mercher: 9:30am – 10:30am & 10:30am - 11:30am 
 
- Dydd Iau: 9:30am – 10:30am
 
 
Archebu: Ap Ffit Conwy | 0300 456 95 25
Am ragor o wybodaeth: hamdden.leisure@conwy.gov.uk