top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Campfeydd CBSC – Amodau Defnydd
start content

Campfeydd CBSC – Amodau Defnydd

Amondau Defnyddio Cyngor Bwrdeis Tref Sirol Conwy

Pwysig - Dylech ddarllen y telerau a'r amodau hyn yn ofalus cyn ymuno. Os nad ydych chi'n daell unrhyw ran, gofynwch am eglurhad.

Mae’r amodau defnyddio canlynol er eich diogelwch chi, eich mwynhad o’r cyfleusterau a diogelwch yr offer y byddwch yn ei ddefnyddio.

  • Y Broses Gyflwyno - mae’n rhaid i chi gwblhau un o’r opsiynau isod cyn defnyddio’n cyfleusterau campfa:
  1. Cyflwyniad Wyneb yn Wyneb  yn y Ganolfan Hamdden yr ydych wedi’i dewis cyn i chi allu dechrau defnyddio’r gampfa a’r cyfleusterau yno. I ddefnyddio’r campfeydd yng nghanolfannau hamdden eraill CBSC gall defnyddwyr drefnu Cyflwyniad Cyflym. Mae’n rhaid archebu’r sesiwn hon ymlaen llaw. 
  2. Cyflwyniad ar-lein - mae’n rhaid i chi gwblhau’r cyflwyniad ar-lein cyn defnyddio cyfleusterau campfa Canolfannau Hamdden CBSC. Bydd y cyflwyniad ar-lein yn rhoi cyfarwyddyd ar sut i ddefnyddio’r offer i chi. Fel rhan o’r telerau ac amodau, rhaid edrych ar bob fideo cyn defnyddio’r cyfleusterau. Wedi i chi gwblhau’r cyflwyniad, bydd modd cael cwrs gloywi/cyflym ar-lein yn Ffit Conwy os bydd angen.
  • Diogelwch Personol - ni ddylech wthio eich hun y tu hwnt i’ch gallu. Os ydych yn gwybod, neu’n pryderu bod gennych gyflwr meddygol a allai eich atal rhag ymarfer yn ddiogel, dylech geisio cyngor gweithiwr meddygol proffesiynol perthnasol a dilyn y cyngor hwnnw.

  • Diogelwch offer - yn ystod y cwrs cyflwyno byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r offer yn y gampfa’n ddiogel ac yn effeithiol, yn cynnwys beth i’w wneud os  bydd rhywbeth yn mynd o’i le gydag unrhyw ddarn o offer.

  • Defnyddio’r gampfa - mae’n rhaid i bob aelod fynd i’r dderbynfa yn gyntaf cyn mynd i’r gampfa. Bydd angen cod ar gyfer rhai cyfleusterau. Byddwch yn cael cod ar bob ymweliad. Mae’r cod hwn yn gyfrinachol ac ni ddylid ei roi i unrhyw ddefnyddiwr arall nac unrhyw un nad ydynt yn ddefnyddiwr. Ni fydd defnyddwyr a ganfyddir yn rhoi’r cod i eraill yn cael parhau i ddefnyddio’r cyfleuster.

  • Uchafswm nifer – dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael bob awr ym mhob cyfleuster. Er mwyn osgoi siom, archebwch eich sesiynau ymlaen llaw. Ni ddylai unrhyw sesiwn barhau mwy na 60 munud.   Peidiwch ag aros dros eich amser. 
  • Problemau – os ydych yn ansicr ynglŷn ag unrhyw beth yn y cyfleuster gallwch siarad â’r hyfforddwyr wyneb yn wyneb, neu gysylltu â’r dderbynfa am gymorth.  Rhowch wybod i’r hyfforddwyr neu’r dderbynfa am unrhyw ddiffygion, problemau neu offer wedi torri gan y bydd hyn yn cyflymu’r broses atgyweirio ac yn lleihau'r amser pan na fydd yr offer ar gael.

  • Hylendid a theimlo’n gyfforddus – mae tyweli papur a hylif hylendid ar ar gael, defnyddiwch hwn i lanhau’r offer ar ôl ei ddefnyddio er budd defnyddwyr eraill. Taflwch dyweli papur a ddefnyddiwyd i’r biniau a ddarparwyd.   Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad ac esgidiau ffitrwydd priodol bob amser. Cynghorir chi i yfed digon o ddŵr yn ystod eich gweithgaredd corfforol felly dewch â dŵr gyda chi neu efallai y bydd ar gael yn y dderbynfa mewn rhai cyfleusterau.  Fe'ch cynghorir hefyd i ddod a’ch tywel campfa eich hun.

  • Cwrteisi yn y Gampfa – meddyliwch am ddefnyddwyr eraill wrth ymarfer. Mae uchafswm yr amser y gellir defnyddio pob darn o offer wedi’i gyfyngu i 20-25 munud yn ystod cyfnodau prysur. Mae’n rhaid dychwelyd y pwysau i’r rhesel ar ôl eu defnyddio. Peidiwch ag agor y ffenestri, gofynnwch i aelod o staff wneud hyn os bydd angen.

  • Argyfwng - pe bai damwain neu ddigwyddiad yn y gampfa, rhowch wybod i’r aelod agosaf o staff ar unwaith


Datganiad: Rwyf wedi darllen a deall yr amodau uchod. Byddaf yn cadw at yr amodau hyn bob amser.

Taliad Dechreuol a Rhandaliadau Misol

I ymuno, gallwch dalu ffi danysgrifio mewn rhandaliadau misol neu fel taliad unigol ymlaen llaw ar ddechrau eich aelodaeth.  Bydd y taliad unigol yn caniatáu aelodaeth 12 mis i chi.  Os ydych yn dymuno talu’n fisol, bydd yn rhaid i chi gwblhau Mandad Debyd Uniongyrchol a thalu swm pro-rata o flaen llaw, sef taliad hyd at ddyddiad dewisol eich rhandaliad Debyd Uniongyrchol cyntaf. Nid oes unrhyw fodd o ad-dalu unrhyw ffi a delir. Bydd eich aelodaeth yn ddilys o’r diwrnod rydych yn ymuno.

Mae cwsmeriaid yn gyfrifol am roi gwybod i’r Ganolfan Hamdden ac i'w banc eu hunain os ydynt yn dymuno canslo Debyd Uniongyrchol. Gosodir y ffi flynyddol ym mis Ebrill, fel arfer, ar gyfer y 12 mis nesaf.  Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cadw'r hawl i adolygu’r taliad ar unrhyw bryd a darperir rhybudd ysgrifenedig o unrhyw newid. Mae eich aelodaeth yn bersonol i chi ac ni allwch ei throsglwyddo i unrhyw un arall.

Cwmser yn canslo'r archeb

Rhaid canslo archebion o leiaf 1 awr cyn amser cychwyn y gweithgaredd a archebwyd.

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ad-daliadau, fodd bynnag, gellir trosglwyddo archebion drwy gysylltu’n uniongyrchol â’r Ganolfan Hamdden, cyhyd ag y rhoddir o leiaf 2 awr o rybudd.

Caiff llyfrau o docynnau a dalwyd ymlaen llaw eu credydu gan Reolwr y Ganolfan, cyhyd ag y rhoddir o leiaf 2 awr o rybudd.

Rhaid canslo archebion gweithgareddau Badminton a 5 bob Ochr o leiaf 24 awr cyn amser cychwyn y gweithgaredd a archebwyd.

Ni fyddwn yn ad-dalu ffioedd aelodaeth os yw archeb y cyfleuster neu’r gweithgaredd yn cael ei ganslo gan yr aelod.

Bydd eich cydweithrediad wrth gydymffurfio â’r polisi canslo yn ein galluogi i ailddyrannu eich lle i aelodau eraill.

Peidio a mynychu gweithgaredd a archebwyd

Byddwn rŵan yn blocio cyfrifon aelodau sydd ddim yn mynychu sesiwn ar ôl archebu neu sy'n canslo gan roi llai nag awr o rybudd. Er mwyn agor y cyfrif bydd yn rhaid i’r aelod gysylltu â ni ar e-bost neu dros y ffôn.

Rydym ni’n annog pob aelod i wneud yn siŵr ei fod wedi mewngofnodi i bob dosbarth. Rydym ni hefyd wedi atgoffa ein timau derbynfa am bwysigrwydd cofnodi pob presenoldeb.

Y Ganolfan Yn Canslo

Ceidw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yr hawl i wrthod neu ganslo unrhyw archeb heb roi rheswm, i wrthod mynediad i’r ganolfan, i wrthod cais am aelodaeth neu i ddileu aelodaeth.

Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ychwanegu, newid, dileu neu ganslo cyfleusterau neu weithgareddau yn y ganolfan heb rybudd. Mae hyn yn cynnwys cau canolfan neu newid yr oriau agor am resymau diogelwch, cynnal a chadw neu oherwydd digwyddiadau arbennig.

Ni fydd ffioedd aelodaeth yn cael eu had-dalu os caiff archeb ar gyfer cyfleuster neu weithgaredd ei chanslo gan y ganolfan. Ni fydd y ganolfan yn atebol am unrhyw wariant neu golled arall a gaiff y cwsmer oherwydd yr archeb ar-lein neu ganslo.

Taliadau Ymlaen Llaw

Bydd angen i’r holl Gwsmeriaid Talu Wrth Fynd dalu am eu gweithgarwch wrth archebu, boed hyn dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Ffioedd Cerdyn Credyd

Does dim ffi am ddefnyddio eich cerdyn credyd neu debyd.

Datganiad Iechyd

Os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol presennol, fe'ch cynghorir yn gryf i gysylltu â’ch meddyg neu ymgynghorydd meddygol i geisio cymeradwyaeth feddygol cyn dechrau ar unrhyw raglen ymarfer corff.

Datganiad Ffurfiol

Rwyf yn datgan, hyd eithaf fy ngwybodaeth, nad oes rheswm yn fy atal i rhag cymryd rhan mewn ymarfer corff. Rwy’n cymryd rhan mewn ymarfer corff ar fy nghyfrifoldeb fy hun ac yn ildio unrhyw hawl cyfreithiol mewn perthynas ag unrhyw niwed i mi fy hun neu fy eiddo a allai godi o ganlyniad i gymryd rhan.

end content