Hanner Tymor Chwefror 2025 - Gweithgareddau

Pethau i'w gwneud yn ystod yr hanner tymor hwn!
Dydd Llun 24 Chwefror – Dydd Gwener 28 Chwefror 2025
(Rhaid archebu lle ymlaen llaw)
Ffon: 0300 456 95 25
Ebost: hamdden.leisure@conwy.gov.uk
Gwersyll Chwaraeon - Llandudno
5-11 oed
Bob dydd: Dydd Llun 24 Chwefror - Dydd Gwener 28 Chwefror 8.30am – 4.30pm
Canolfan Nofio Llandudno & Canolfan Hamdden John Bright
Nofio pob diwrnod o 9-10am cyn cerdded draw i Ganolfan Hamdden John Bright i fwynhau diwrnod llawn hwyl!
Amrywiaeth o chwaraeon gan hyfforddwyr cymwys gan gynnwys: gêm osgoi’r bêl, trampolinio, sglefrio ar olwynion, chwaraeon raced a chwaraeon tîm (Amserlen ddyddiol)
Cost: £25 y diwrnod (neu os yw’r plentyn ar Ddebyd Uniongyrchol Nofio: £23)
Gwersyll Aml-chwaraeon - Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy, Llanrwst
Oed: 5+
Dydd Iau 27 Chwefror
10:00am - 2:30pm
Plant i wisgo dillad addas a chlymu gwallt hir yn ôl. Hefyd, dewch â bocs bwyd gyda a digon o ddiod.
Cost: £18
Gwersyll Gymnasteg - Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy, Llanrwst
Oed: 5+
Dydd Llun 24 Chwefror a Dydd Gwener 28 Chwefror 2025 10:00am - 2:30pm
Plant i wisgo dillad addas a gwallt hir wedi’i glymu’n ôl.
Hefyd dewch â sanau a bocs bwyd gyda digon i’w yfed.
Cost: £18
Gwersi Nofio Dwys - Canolfan Hamdden Abergele
Dydd Llun 24 Chwefror - Dydd Gwener 28 Chwefror
Gwersi Nofio Dwys: Maent yn berffaith ar gyfer nofiwyr newydd neu rai sydd angen ychydig mwy o ymarfer. Bydd y cyrsiau hyn yn gweithio ar y sgiliau sydd eu hangen i basio pob lefel a magu hyder eich plentyn yn y pwll.
Ton 1 a 2: 10.10am – 10.40am | 10.45am - 11.15am | 11.20am - 11.50am
Ton 3: 10.45am - 11.15am | 11.20am - 11.50am
Ton 4 a 5: 10.10am – 10.40am
Cost: £22.25
Gwersi Dwys Ar Gyfer Achubwyr Bywyd Dibrofiad/Ar y Traeth - Canolfan Hamdden Colwyn
Dydd Llun 24 Chwefror - Dydd Gwener 28 Chwefror 9:00am - 11:00am
Mae ein rhaglen yn cynnig y cyfle cyntaf i archwilio diogelwch yn y dŵr, gan fagu annibyniaeth a hyder yn raddol a dysgu sgiliau bywyd hanfodol ar yr un pryd. Bydd ein rhaglen yn ysbrydoli ac yn rhoi hyder i’ch plentyn, gan ei helpu i’w gadw ei hun, ei ffrindiau a’i deulu’n ddiogel yn y dŵr – a hynny drwy ystod o weithgareddau hwyliog sy’n arwain at gyfres o wobrau.
Cost: £44
Gwersi Nofio Dwys - Canolfan Nofio Llandudno
Dydd Llun 24 Chwefror - Dydd Gwener 28 Chwefror
Ton 1 a 2: 10.10am – 10.40am | 10.45am - 11.15am | 11.20am - 11.50am
Ton 3: 10.10am – 10.40am | 10.45am - 11.15am | 11.20am - 11.50am
Cost: £22.25
Cymhwyster Cenedlaethol Achub Bywydau Mewn Pwll RLSS - Canolfan Hamdden Colwyn
16+
22 Chwefror tan 28 Chwefror 2025
Cost: £290 gan gynnwys asesiad
Newydd: Clwb Crefftau Ymladd Ffit Conwy - Canolfan Hamdden John Bright, Llandudno
Dewch draw i’n Sesiynau Blasu Am Ddim gyda Sensei Terry.
Nos Fawrth 25 Chwefror a nos Iau 27 Chwefror
Plant: 6pm - 7pm
Oedolion: 7pm - 8pm
I gofrestru ar gyfer y sesiynau blasu neu am ragor o wybodaeth ffoniwch 0300 456 9525.
Gweithgareddau Iau (11-15)
Canolfan Hamdden Colwyn
Dydd Llun 24 Chwefror
11:00 - 11:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
15:30 - 16:15: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid)
Dydd Mawrth 25 Chwefror
11:00 - 11:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid)
13:00 - 14:00: Chwaraeon Raced Ieuenctid *
15:30 - 16:15: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
Dydd Mercher 26 Chwefror
11:00 - 11:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
15:30 – 16:15: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid)
Dydd Iau 27 Chwefror
11:00 - 11:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid)
13:00 - 14:00: Chwaraeon Raced Ieuenctid*
15:30 - 16:15: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
Dydd Gwener 28 Chwefror
17:00 – 18:00 Sesiwn Flasu Tennis Ieuenctid*
Dydd Sadwrn 1 Mawrth
11:00 - 12:00 Sesiwn Blasu Tennis Ieuenctid*
*(yng Nghanolfan Tennis JAB)
Darperir yr holl offer. Cost: Wedi’i gynnwys yn yr Aelodaeth Iau neu £4.35 y sesiwn. Rhaid archebu lle.
Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno
Dydd Llun 24 Chwefror
10:00 - 10:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
16:00 - 16:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid)
Dydd Mawrth 25 Chwefror
10:00 - 10:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid)
16:00 - 16:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
Dydd Mercher 26 Chwefror
10:00 - 10:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
16:00 - 16:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid)
Dydd Iau 27 Chwefror
10:00 - 10:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Hybrid)
16:00 - 16:45: Clwb Codi Pwysau Ieuenctid (Cryfder)
Dydd Gwener 28 Chwefror
16:30 - 17:30 BoxFfit Iau
Canolfan Hamdden Abergele
Bob dydd: Dydd Llun 24 Chwefror – dydd Gwener 28 Chwefror
Sesiynau galw heibio pêl-droed - cae 3G
11:00 – 12:00 a 14:00 – 15:00
Man diogel i chwarae gyda ffrindiau dros hanner tymor, sesiynau anffurfiol.
Cost: Mae’r sesiynau wedi’u cynnwys yn yr aelodaeth neu bris talu wrth fynd o £2 y sesiwn. Rhaid archebu lle.