Canolfan Ddigwyddiadau Eirias
Mae prif atyniad chwaraeon a digwyddiadau eraill Bae Colwyn a Chonwy wedi’i leoli mewn hanner can erw o dir parc hardd, yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i’r gymuned leol, aelodau o’r cyhoedd, trefnwyr digwyddiadau a thimau a chlybiau chwaraeon proffesiynol.
Wedi’i lleoli ger Canolfan Hamdden Colwyn, mae Canolfan Ddigwyddiadau Eirias yn gartref i Ganolfan Hyfforddi Dan Do (a enwir yn lleol fel ‘Yr Ysgubor’), Stadiwm CSM a’r cae 4G awyr agored, campfa perfformiad, sy’n darparu ar gyfer timau chwaraeon proffesiynol yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd, a thrac athletau 400m sydd wedi’i adnewyddu.
Mwy o wybodaeth