Gymnasteg RISE

Mae Rhaglen a Chynllun Gwobrau Gymnasteg Rise yma yn Ffit Conwy!
(Ffit Conwy mewn partneriaeth â Gymnasteg Cymru)
“Rhoi’r cyfle i bob mabolgampwr ddisgleirio”
- Llandudno, Llanrwst a Bae Colwyn
Rhaglen llawn hwyl sy’n darparu siwrnai drwy weithgareddau gymnasteg hamdden.
Gymnasteg Rise
- Mae’n rhoi sgiliau sylfaenol i blant
- Mae’r sesiynau yn ddiddorol ac yn llawn hwyl.
- Gellir teilwra ac addasu’r rhaglen i ddiwallu anghenion unigol
- Mae’n darparu profiad cadarnhaol o ansawdd uchel
- Gall plant symud ymlaen ar eu cyflymder eu hunain
Mae Gymnasteg Rise yn cynnwys tri cham; Darganfod, Archwilio a Rhagori.
Ar draws y tri cham, gall bob plentyn brofi ystod eang o weithgareddau, patrymau symud sylfaenol a sgiliau gymnasteg, a meithrin eu creadigrwydd, gan arwain at wobr ar bob lefel gallu, drwy lwyddiant a chyrhaeddiad.
Oedran: Cyn ysgol, o oed cerdded hyd at oed cyn ysgol
Mae gan y cam hwn dair lefel o ran gallu. Mae wedi’i ddylunio i ddal dychymyg plentyn. Caiff ei ddarparu drwy chwarae creadigol gyda gweithgareddau difyr ar thema sy’n gysylltiedig â phrofiadau bywyd amrywiol. Bydd plant yn ennill gwobrau wrth iddynt gwblhau’r gweithgareddau cyffrous.
Cyflawnir pob gwobr drwy gwblhau 12 o’r 16 sgil a gynigir.
Oedran: 5-8 oed
Mae Archwilio ar gyfer mabolgampwyr hamdden oedran ysgol, sydd naill ai wedi cwblhau’r cam Darganfod, neu sy’n cymryd rhan yn y gamp am y tro cyntaf.
Mae Archwilio yn cynnig gweithgareddau hwyliog, amrywiol a deniadol sy’n galluogi datblygiad parhaus ac esmwyth i bob mabolgampwr, gan helpu i ddatblygu eu lles corfforol, cymdeithasol ac emosiynol.
Mae gan Archwilio - Gymnasteg Rise Gynllun Gwobrau yn seiliedig ar y tri maes canlynol: Sgiliau Craidd, Offer a Chydweithio. Mae gan bob maes bedair lefel i’r mabolgampwyr eu cwblhau.
Cyflawnir pob gwobr drwy gwblhau 8 o’r 12 sgil a gynigir.
Oedran: 9+
Mae Rhagori ar gyfer mabolgampwyr sydd eisoes wedi cwblhau’r cam Archwilio, neu os yw eu lefel sgiliau eisoes yn uwch na rhai yn y cam Archwilio.
Mae Rhagori yn cynnig gweithgareddau difyr, bywiogol a heriol sy’n galluogi datblygiad parhaus ac esmwyth i bob mabolgampwr. Trwy’r cyfnod Rhagori, rydym yn adeiladu ar y sgiliau y mae’r mabolgampwyr wedi’u dysgu drwy’r cyfnod Archwilio, ac rydym yn dysgu rhai newydd.
Yn y cyfamser, bydd mabolgampwyr profiadol ac uchelgeisiol yn ymarfer ac yn perffeithio sgiliau gymnasteg uwch, gan ddysgu sgiliau newydd drwy weithgareddau difyr o ansawdd uchel.
Clwb Gymnasteg Ffit Conwy - Amserlen
Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy
Dydd Llun
- Excel: 16:15 – 17:15 | 17:30 – 18:30
- Excel (9+): 18:30 – 20:30
Dydd Gwener
- Explore: 16:15 – 17:15 | 17:30 – 18:30 | 18:45 – 19:45
Canolfan Hamdden John Bright, Llandudno
Dydd Llun
- Explore: 17:00 – 18:00 | 18:00 – 19:00
- Excel: 19:00 – 20:00
Dydd Mercher:
- Explore: 17:00 – 18:00 | 18:00 – 19:00
- Excel: 19:00 – 20:00
- Discover: dyddiad dechrau i’w gadarnhau
Cost
Debyd Uniongyrchol Misol
- Discover (1 awr yr wythnos): £25.00
- Darganfod (1 awr yr wythnos) £25.00
- Rhagori (1 awr yr wythnos) £25.00
- Rhagori a Chyflyru (2 awr yr wythnos): £37.50
- Sgwad (3 awr yr wythnos): £45.00
Porth Rhieni: Canolbwynt Rise
Bydd datblygiad gymnasteg y plant yn cael ei asesu’n gyson drwy gofnodi cynnydd wythnosol. Mae hyn yn lle cael sesiynau neu orsafoedd asesu unigol. Gall y rhain achosi pryder i rai mabolgampwyr.
Gallwch ddilyn cynnydd eich plentyn ar y Canolbwynt Rise: (dolen i’w chyhoeddi’n fuan).
Mae’r gwobrau ar gyfer Gymnasteg Rise yn cynnwys tystysgrifau lliwgar, a medalau unigryw i’n galluogi ni i wobrwyo’r plant gyda rhywbeth y byddant yn siŵr o’i drysori.
Am ragor o wybodaeth: ffoniwch 0300 456 95 25 neu e-bostiwch Hamdden.Leisure@conwy.gov.uk.
I sicrhau lle a chwblhau ffurflen debyd uniongyrchol:
Ar gyfer Llandudno ewch i Ganolfan Nofio Llandudno ac ar gyfer Llanrwst ewch i Ganolfan Hamdden Dyffryn Conwy.