Roller Discos

Disgos Sglefrio ‘RocaRolio Ffit Conwy
Mae Disgos Sglefrio Ffit Conwy ar gyfer unrhyw un sydd eisiau rhoi cynnig ar rôl-sglefrio, beth bynnag eu hoed a’u gallu. Pa un ai ydych chi’n droed-roliwr hyderus neu erioed wedi gwisgo esgidiau rolio o’r blaen, dewch i ymuno â ni!
Beth sydd arnoch chi angen ei wybod:
- Nid ar gyfer plant yn unig mae ein Disgos Sglefrio – gall oedolion ddod hefyd ac ail-fyw eu plentyndod!
- Mae’r sesiynau ar gyfer bob oed a gallu (rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn)
- Mae esgidiau sglefrio ar gael, o faint 8 plant i 12 oedolion
- Mae’n rhaid i bob plentyn dan 8 wisgo helmed, ond rydym ni’n argymell bod pawb dan 16 oed yn gwisgo un
- Gallwch fenthyg helmed (y cyntaf i’r felin ydi hi) neu fe allwch chi ddod â’ch helmed eich hun
- Mae’n rhaid i bawb wisgo amddiffynwyr arddwrn, sydd ar gael yn y ganolfan
Archebu:
Ap Ffit Conwy
0300 456 95 25 | hamdden.leisure@conwy.gov.uk