Title

Text

Pwll Padlo Penmaenmawr

Yng nghanol ardal syfrdanol o hardd ar arfordir gogledd Cymru, dafliad carreg o’r A55.  Gyda golygfeydd godidog o Ynys Môn ac Ynys Seiriol, mae pwll padlo Penmaenmawr yn lleoliad poblogaidd iawn i ymwelwyr a’r bobl leol fel ei gilydd. Mae’r pwll padlo traddodiadol ar siâp diemwnt ac mae’n mesur 11m x 8m.  Mae’n 1 droedfedd / 0.3 metr o ddyfnder ar ei bwynt dyfnaf, ac mae hefyd yn cynnwys rhaeadr.

Gallwch fynd at y pwll padlo ar droed o’r briffordd drwy fynd ar hyd tanffordd, neu os ydych chi’n gyrru, mae yna rywfaint o fannau parcio ar un pen i’r promenâd.

Mae caffi wedi ei leoli 50 llath o’r pwll padlo sy’n darparu amrywiaeth o fwyd a lluniaeth.
Gallwch hefyd logi’r cabanau gwyliau gerllaw am y dydd – ewch draw i siarad â pherchnogion y caffi am ragor o wybodaeth. Mae parc i blant gerllaw sy’n cynnwys nifer o wahanol offer chwarae. Er diogelwch ychwanegol, mae ffens derfyn o amgylch y parc.

Cwestiynau cyffredin

 

Pyllau padlo eraill