Pwll Padlo Craig y Don
Dyma un o byllau padlo awyr agored mwyaf Cymru. Mae’n mesur 116m x 21m ac yn 2 droedfedd / 0.6 metr o ddyfnder ar ei bwynt dyfnaf. Mae'n atyniad poblogaidd iawn yn ystod tymor yr haf.
Mae’r cyfleusterau ar y safle’n cynnwys:
- 'Caffi’r Pwll’ sy’n gwerthu diodydd, byrbrydau, hufen iâ a theganau meddal i blant
- Byrddau picnic a meinciau
- Toiledau cyhoeddus
- Mae parc i blant hefyd gerllaw, gyda ffens derfyn ddiogel o’i amgylch.
- Mae yna rywfaint o fannau parcio am ddim ar y promenâd a gerllaw, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yno’n gynnar i osgoi cael eich siomi. Mae’r gwasanaeth bws lleol yn pasio heibio’r safle’n rheolaidd, ac mae pob arhosfan o fewn pellter cerdded byr.
Cwestiynau cyffredin
Pyllau padlo eraill