Pwll Padlo Llanfairfechan

Ger llyn mawr, parc plant a Llecyn Gemau Amlddefnydd, mae hwn yn bwll petryal traddodiadol sy’n mesur 17m x 6m, ac sy’n 0.6m o ddyfnder ar ei bwynt dyfnaf.

Gyda golygfeydd anhygoel tua Bangor ac Ynys Môn, mae'r pwll padlo'n fan delfrydol i fwynhau diwrnod hamddenol braf. Mae byrddau picnic gyda seddi ar gael ac mae’r ffens derfyn ddiogel o’i amgylch yn rhoi tawelwch meddwl ychwanegol i rieni.

Mae yna gaffis a chludiant cyhoeddus o fewn pellter cerdded, gyda dewis o siopau coffi hefyd o fewn y dref.

Cwestiynau cyffredin

Rheolir y pwll padlo hwn trwy bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Tref LlanfairfechanMae tîm Ffit Conwy yn goruchwylio’r gwaith o reoli a chynnal a chadw pob safle.

 

Pyllau padlo eraill