Title

Text
cy Cartref Nofio Advice Policies and Procedures Polisi Nofio gydag Epilepsi
start content

Polisi Nofio gydag Epilepsi

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweithredu Polisi Nofio gydag Epilepsi sydd wedi ei ddyfeisio yn unol â chanllawiau gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol (CIMSPA) a thrwy ymgynghori gyda sefydliadau epilepsi. Dangosir prif ofynion y polisi isod:

  1. Gall unigolyn gydag epilepsi sydd wedi bod yn rhydd o ffitiau am o leiaf blwyddyn ddefnyddio pyllau nofio Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy heb unrhyw ragofalon arbennig.
  2. Dylai unigolion gydag epilepsi nad yw wedi ei reoli ac na ellir rheoli’r cyflwr gyda meddyginiaeth a rhieni plant ag epilepsi nad yw wedi ei reoli ac na ellir rheoli’r cyflwr gyda meddyginiaeth geisio cymeradwyaeth eu meddyg teulu ar gyfer nofio a chymryd rhan mewn mathau eraill o chwaraeon, gan ystyried y canlynol: math, difrifoldeb ac amlder ffitiau; presenoldeb neu absenoldeb arwyddion o rybudd; a ffactorau sbarduno hysbys e.e. dŵr oer, straen, cyffro, sŵn (yn arbennig mewn pwll oer) neu oleuadau llachar ar arwyneb y dŵr.
  3. Mae gofyn i unigolyn gydag epilepsi heb ei reoli neu eu rhiant/gwarcheidwad a/neu ofalwr roi gwybod i dderbynfa’r Ganolfan Hamdden ar ôl iddynt gyrraedd y ganolfan. Bydd Rheolwr ar Ddyletswydd wedyn, mewn partneriaeth gyda’r cwsmer, y teulu neu’r gofalwr yn cynnal asesiad risg o anghenion y cwsmer i sicrhau ymweliad diogel a phleserus.
  4. Ni all nofio ddigwydd heb gydymaith dan unrhyw amgylchiadau.  Ni ddylai nofio ddigwydd os yw’r unigolyn neu eu cydymaith yn teimlo’n sâl.
  5. Cydymaith yw rhywun a fydd yn gwmni i’r nofiwr sydd ag epilepsi nad yw wedi ei reoli a bydd yn ei oruchwylio’n barhaus o un ai y tu mewn neu’r tu allan i’r pwll; bydd ganddo wybodaeth ynglŷn â chyflwr epilepsi’r unigolyn a bydd yn gallu adnabod ffit. 
  6. Pan fo cydymaith yn gwmni i’r nofiwr y tu mewn i’r pwll, bydd nofio’n cael ei gyfyngu i *ddyfnder sefyll y cydymaith. Bydd gofyn i’r cydymaith alw ar yr achubwr bywydau os yw ffit yn digwydd er mwyn sicrhau fod yr unigolyn yn cael ei achub mor gyflym â phosibl.
  7. Os na all y cydymaith fynd gyda’r unigolyn sydd ag epilepsi heb ei reoli i mewn i’r pwll nofio, dylai’r cydymaith fod ar ochr y pwll gan oruchwylio’n barhaus.  Rhaid i’r cydymaith leoli eu hunain fel y gallant alw yn gyflym ar yr achubwr bywydau os yw ffit yn digwydd er mwyn sicrhau fod yr unigolyn yn cael ei achub mor gyflym â phosibl. Bydd nofio yn cael ei gyfyngu i *ddyfnder sefyll y nofiwr.

* Yn dibynnu ar ganlyniadau’r asesiad risg, fe all y Rheolwr ar Ddyletswydd ystyried caniatáu nofio y tu hwnt i’r dyfnder sefyll.

Dylai trefnwyr sesiynau wedi eu rhaglennu roi gwybod i’r ganolfan hamdden os oes gan unrhyw rai o’u haelodau epilepsi heb ei reoli.

end content