Polisïau a Gweithdrefnau sy'n Rhoi Cyngor
Rydym yn eich croesawu i’n pyllau nofio ac yn gobeithio y byddwch yn mwynhau eich ymweliad gyda ni. Rydym yn darparu’r cyfleusterau hyn er mwynhad i chi, fodd bynnag ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau eich diogelwch. Rydym yn darparu staff sydd wedi cymhwyso gyda’r Gymdeithas Frenhinol Achub Bywydau a sydd wedi eu hyfforddi i gynnal amgylchedd diogel yn y pwll a gweithredu mewn sefyllfa o argyfwng os yw hynny’n digwydd yn y pwll. Fodd bynnag, gofynnwn i chi ddarllen a dilyn y canllawiau isod i sicrhau eich bod yn dod yn ymwybodol o unrhyw risgiau posibl o fewn ein cyfleusterau.
Cysylltwch â’ch pwll nofio lleol i gael rhagor o wybodaeth.