Ymddygiad wrth nofio mewn lonydd
I sicrhau fod pawb yn cael y budd mwyaf o’n sesiynau nofio mewn lonydd, byddai o gymorth pe bai pawb yn cadw at rai pwyntiau sylfaenol. Os gwelwch yn dda…
- Dewiswch lôn sydd fwyaf addas i’ch gallu cyn mynd i’r pwll.
- Arhoswch hyd nes bod nofwyr wedi troi a gwthio ymaith cyn mynd i’r pwll.
- Nofiwch yr un ffordd â’r cloc / gwrth glocwedd yn unol â’r arwyddion sydd wedi eu lleoli ar bob lôn.
- Byddwch yn ymwybodol o nofwyr eraill yn dod i mewn i’r pwll.
- Byddwch yn barod i newid lôn os nad yw eich cyflymder nofio yr un fath ag eraill yn y lôn.
- Gorffwyswch yng nghornel y lôn pan rydych yn rhoi’r gorau i nofio.
- Os ydych yn nofio ar eich cefn, edrychwch ar y baneri sydd wedi eu lleoli dros bob lôn, mae’r rhain yn dangos eich bod 5 metr o ymyl y pwll.
- Ni ddylai fod yna fwy na 10 nofiwr ym mhob lôn. (Gall y nifer hwn gynyddu ar gyfer clybiau nofio a chynhesu ar gyfer gala, yn ddibynnol ar asesiad risg addas).
- Ildiwch i nofwyr cyflymach ar ddiwedd y lôn.
- Byddwch yn ymwybodol o nofwyr sy’n dod i’ch cyfeiriad gan oddiweddyd dim ond pan fo’n glir i chi wneud hynny.
- Byddwch yn ymwybodol o nofwyr eraill sydd eisiau pasio os ydych yn defnyddio byrddau cicio a bwiau.
Caniateir y defnydd o esgyll, padlau llaw a snorceli nofio wrth nofio mewn lôn yn unig. Mae hyn yn ddibynnol ar ddisgresiwn y swyddog sydd ar ddyletswydd. Dylai’r swyddog sydd ar ddyletswydd gynnal asesiad risg deinamig ar lôn lle mai cymhorthion nofio yn bresennol. Os ydynt yn barnu y gallai’r offer o bosibl achosi niwed i’r defnyddiwr neu aelodau eraill o’r cyhoedd, yna dylai’r swyddog ar ddyletswydd neu’r aelod o staff un ai symud yr unigolyn sy’n defnyddio’r offer i lôn arall neu atal yr aelod o’r cyhoedd rhag defnyddio’r offer hyd nes y bydd y risg wedi ei leihau.
Dylai achubwyr bywydau ymyrryd os ydynt yn credu y gallai camau gweithredu’r defnyddiwr achosi anaf iddynt hwy eu hunain neu ddefnyddwyr eraill. Enghraifft o hyn yw nofiwr cyflym yn mynd i lôn gyda nofiwr araf. Gallai hyn arwain at wrthdrawiad ac felly byddai angen ymyrraeth yr achubwr bywydau.