Polisi Derbyn
Plant o dan 8 oed
Rhaid i riant y plentyn neu unigolyn cyfrifol fod gyda phlant o dan 8 oed yn y dŵr a’r ystafelloedd newid a rhaid i’r unigolyn hwnnw fod yn 16 oed neu’n hŷn ar sail dau o blant i un unigolyn. Rhaid i’r rhiant gadw llygad ar eu plant drwy’r amser a bod mewn cyswllt agos gyda phlant sy’n nofwyr gwan neu nad ydynt yn gallu nofio. Caiff rhiant ei ddiffinio fel rhywun dros 16 oed neu iau os mai’r unigolyn yw rhiant biolegol y plentyn neu’r plant. Pan fo gennych fwy nag un plentyn nad yw’n gallu nofio, argymhellir cymhorthion arnofio.
Plant 8 oed a hŷn
Dylai rhieni fod yn ymwybodol y gallai plant dros wyth oed, yn arbennig y rhai hynny nad ydynt yn gallu nofio neu sy’n nofwyr gwan, fod angen goruchwyliaeth ar lefel debyg. Rhaid i’r rhai hynny sy’n gyfrifol am y plant felly ystyried galluoedd nofio’r holl blant a’r oruchwyliaeth briodol sydd ei hangen a thalu sylw i gyngor/cyfarwyddyd staff y pwll nofio.
Cyfrifoldeb Rhiant
Mae gan rieni gyfrifoldeb penodol dros ddiogelwch eu plant. Ni ellir gwthio hyn ar achubwyr bywydau sy’n gyfrifol am ddiogelwch yr holl nofwyr. Prif rôl achubwr bywydau yw atal sefyllfaoedd peryglus rhag codi ac maent wedi eu hyfforddi ac wedi cymhwyso’n addas i achub a gweithredu cymorth cyntaf os oes angen.