top-skip-iconNeidio i’r cynnwys
Title

Text
cy Ap Ffit Conwy
start content

Ap Ffit Conwy

900 x 500App Cym

Lawrlwythwch Ap Ffit Conwy!

Gellwch lawrlwytho ap Ffit Conwy am ddim. I osod yr ap ar eich dyfais, agorwch eich siop apiau a chwilio am ‘Ffit Conwy’. Fel arall, gellwch glicio ar y botymau isod. Pan fyddwch wedi gosod yr ap yn llwyddiannus ar eich dyfais ac wedi sefydlu eich cyfrif, gellwch archebu gweithgaredd, sesiwn nofio neu ddosbarth ffitrwydd yn unrhyw un o’n canolfannau.

Os oes angen cymorth arnoch gyda’r ap, ffoniwch y ganolfan gyswllt ar 0300 456 95 25 neu anfonwch e-bost i hamdden.leisure@conwy.gov.uk.

Lawrlwythwch ar yr App Store Mae ar gael ar Play Store

Gydag ap Ffit Conwy, mae eich canolfan wastad yn eich poced, sy’n ei gwneud yn hawdd i chi archebu lle ar gyfer eich hoff ddosbarthiadau a gweithgareddau ffitrwydd yn gyflym.

Fe gewch chi’r wybodaeth ddiweddaraf, newyddion, amserlenni dosbarthiadau ffitrwydd, amserlenni nofio cyhoeddus, cynigion, digwyddiadau a hysbysiadau gwthio gyda newyddion pwysig.
  • Amserlenni dosbarthiadau ffitrwydd
Mae amserlenni dosbarthiadau eich canolfan i’w gweld mewn amser real, gan gynnwys amseroedd, hyfforddwyr ffitrwydd a disgrifiad o’r dosbarth.
  • Archebu dosbarth ffitrwydd
Gallwch wirio a oes yna le, archebu lle mewn ddosbarth, newid eich archeb eu ei ganslo – i gyd ar eich ffôn!
  • Amserlenni nofio cyhoeddus
Mae amserlen sesiynau nofio cyhoeddus eich canolfan i’w gweld mewn amser real.
  • Gwybodaeth am y ganolfan
Gallwch weld ein hamseroedd agor a’n cyfleusterau.
  • Newyddion a hysbysiadau gwthio
Mae hysbysiadau am newyddion a digwyddiadau’r canolfannau yn dod yn syth i’ch ffôn. Gyda’r ap, fe gewch chi wybod ar unwaith am unrhyw ddigwyddiadau neu ddosbarthiadau newydd, gan sicrhau na fyddwch chi’n colli allan ar unrhyw beth.
  • Cynigion
Fe gewch chi hysbysiadau gwthio am gynigion newydd i sicrhau eich bod yn cael gwybod am unrhyw gynnig arbennig.
  • Aelodaeth ac ymuno ar lein
Ewch i weld ein gwahanol fathau o aelodaeth, canfod yr un sydd orau i chi ac ymuno ar lein.
  • Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni ar rifau ffôn a chyfeiriadau e-bost y canolfannau neu weld cyfarwyddiadau a mapiau.
  • Rhannu ar Facebook, Twitter ac e-bost
Rhannwch ddosbarthiadau, newyddion, gwybodaeth am ganolfannau a chynigion gyda’ch ffrindiau a’ch teulu drwy glicio botwm.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content