start content

Rhieni Chwareus

Mae Rhieni Chwareus yn sesiwn chwarae am ddim, a anelir yn bennaf at blant 5 mlwydd oed ac iau a’u rhieni a gwarcheidwaid i’w hannog i fynd allan a gwneud llanast, ni waeth beth fo’r tywydd. 

Mae Rhieni Chwareus yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd chwarae – boed yn chwarae blêr, adeiladu, celf a chrefft, chwarae rôl a llawer mwy. 

Bydd thema a ffocws gwahanol i’r sesiynau bob wythnos er mwyn cynnal diddordeb eich plant a sicrhau eu bod yn edrych ymlaen at ddod yn ôl am rywbeth newydd bob wythnos. 

Gweler isod lle fyddwn ni am y misoedd nesaf, a gobeithio y gwelwn ni chi yno

Yn dechrau ar 1 Rhagfyr 2025

Dydd Mawrth 9:30am - 11:00am
Bodlondeb Park, Parc Bodlondeb, Ffordd Bangor LL32 8NU 

Dydd Iau  9:30am - 11:00am
Parc y Frenhines, Queen's Rd, Llandudno LL30 1TY

Cost: Dim
Nid oes angen archebu lle, dewch draw! 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content