Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno
Mae Canolfan Hamdden Cyffordd Llandudno yn gyfleuster cymunedol poblogaidd ac mae’n cynnig amgylchedd modern i wneud ymarfer corff ynddo.
Mae’r gampfa helaeth yn cynnig amrywiaeth o offer modern i’ch helpu i gyflawni eich nodau ffitrwydd. Mae’n cynnwys ardal hyfforddi, peiriannau gwrthiant a chardio Technogym, platfformau codi Watson a phwysau rhydd. Mae’n amgylchedd delfrydol i feithrin hyder a gweithio rhannau penodol o’ch corff.
I’r rhai sy’n mwynhau gwneud ymarfer corff mewn grŵp, mae dwy stiwdio ffitrwydd yng Nghyffordd Llandudno ar gyfer dosbarthiadau dan arweiniad hyfforddwr a rhai ar-lein. Mae amserlen dosbarthiadau ffitrwydd amrywiol ar gael sy’n golygu bod rhywbeth i bawb!
Mae crèche â staff goruchwylio ar gael i rieni sy’n dymuno gwneud ymarfer corff (mae modd archebu o flaen llaw).
Mae modd archebu lle yn yr ystafell gyfarfod fach yn y ganolfan hefyd ac mae offer tenis bwrdd ar gael i’w llogi
Canolfanau Eraill
RAZOR VIEW ERROR
The control '' has raised the following error:
Cannot perform runtime binding on a null reference