Gŵyl Chwe Gwlad y Merched o dan 18 yn dod i Fae Colwyn
WalesSquad
Mae’r Chwe Gwlad wedi cyhoeddi heddiw y bydd Gŵyliau o Dan 18 ar gyfer Dynion a Merched yn cael eu cynnal ym Mharma yn Yr Eidal a Bae Colwyn yng Nghymru y Gwanwyn hwn.
Dyma fydd y trydydd tro i’r gŵyliau hyn gynnwys y Chwe Gwlad traddodiadol – ond bydd Georgia a Phortiwgal yn cymryd rhan yn nigwyddiad y Dynion y tro hwn hefyd.
Bydd y gŵyliau hyn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i dalentau ifanc y gwledydd i gael blas o’r llwyfan rhyngwladol yn gynnar yn eu gyrfaoedd. Felly hefyd hyfforddwyr a dyfarnwyr – fydd yn berthnasol i gynrychiolwyr Portiwgal a Georgia yn y digwyddiad yn Yr Eidal.
Bydd fframwaith taclo’r gêm gymunedol yn weithredol yn y ddwy ŵyl a bydd modd gwylio’r gemau ar sianeli’r Chwe Gwlad.
Stadio Sergio Lanfranchi,Parma fydd yn cynnal pumed gŵyl y Dynion o dan 18 a bydd y tocynnau ar gyfer yr holl gemau ar gael am ddim. (30ain o Fawrth, 3ydd o Ebrill a’r 7fed o Ebrill).
Bydd pob tîm yn chwarae 1 gêm 70 munud o hyd ar y diwrnod cyntaf gyda phedair gornest yn digwydd bob dydd.
Stadiwm CSM, Bae Colwyn fydd yn cynnal trydedd gŵyl y Merched o Dan 18 – y tro cyntaf i Gymru groesawu’r digwyddiad.
Bydd pob tîm yn chwarae dwy gêm 35 munud o hyd ar ddau ddiwrnod cystadleuol cyntaf yr ŵyl – cyn chwarae 1 gêm 70 munud ar y trydydd diwrnod o gystadlu.
Mae tocynnau ar gael ar gyfer y tridiau (29ain o Fawrth, 2il o Ebrill & 6ed o Ebrill) am bris o £10 i oedolion a £5 i rai o dan 16 oed.
Yn ystod gŵyl y Merched bydd y defnydd o bêl maint 4.5 yn cael ei dreialu am y tro cyntaf.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gŵyliau y Chwe Gwlad o Dan 18, Julie Paterson:
“Mae’r digwyddiadau hyn yn hynod bwysig yn natblygiad ein chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr a’n staff cynorthwyol. Maen nhw’n cynnig profiad gwerthfawr o ddiwrnod gêm ar y lefel rhyngwladol yn ogystal â chynnig y cyfle i’r chwaraewyr addawol hyn ddangos eu doniau.
“Bydd y gŵyliau’n digwydd am y drydedd flwyddyn yn olynol ac maen nhw’n brawf o ymrwymiad y Chwe Gwlad i gynnig llwybr clir ac effeithiol i gyrraedd y prif lwyfan rhyngwladol. ‘Ry’n ni wrth ein bodd ein bod yn gallu estyn croeso i Bortiwgal a Georgia i ddigwyddiad y Dynion. Bydd y gwledydd hynny a’r Chwe Gwlad arall yn elwa o’u presenoldeb.
“Hoffwn ddiolch i’r Undebau yn Yr Eidal ac yng Nghymru am gynnal y digwyddiadau pwysig yma’r Gwanwyn hwn.”
Dywedodd Llywydd Under Yr Eidal (FIR) Marzio Innocenti:
“Mae’r ŵyl yma’n gam pwysig yn natblygiad chwaraewyr y dyfodol. Mae’n stadiwm yn cynnal gemau cartref Zebre a thîm rhyngwladol ein Menywod ac felly mae’n lleoliad addas i greu cysylltiadau newydd a chreu atgofion oes.”
Ychwanegodd Huw Bevan, Cyfarwyddwr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru:
"Ry’n ni’n hynod o falch bod y Chwe Gwlad wedi dewis Bae Colwyn i gynnal gŵyl y Merched eleni.
“Mae gennym brofiad helaeth o gynnal digwyddiadau pwysig yng Ngogledd Cymru ac ry’n ni wrth ein bodd ein bod yn gallu parhau i gydweithio gyda Chyngor Conwy. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt unwaith eto am eu cefnogaeth.
“Mae Rygbi Gogledd Cymru yn feithrinfa gampus i rygbi Merched a Menywod. Mae 12 o ferched newydd gael eu dewis yng ngharfan estynedig o Dan 18 Cymru.
“Mae’r ŵyl yma’n gam pwysig yn llwybr datblygu ein merched ifanc a bydd y gemau’n cynnig cyfle gwirioneddol i’r chwaraewyr brofi eu hunain yn erbyn goreuon Ewrop ar y lefel yma.”
Gemau Gŵyl y Merched: Stadiwm CSM, Bae Colwyn
Diwrnod 1: Gwener 29ain Mawrth (gemau 35 mun)
- 12:00 LLOEGR v IWERDDON
- 13:00 YR EIDAL v LLOEGR
- 14:00 IWERDDON v YR EIDAL
- 15:30 FFRAINC v YR ALBAN
- 16:30 CYMRU v FFRAINC
- 17:30 YR ALBAN v CYMRU
Diwrnod 2: Mawrth 2il Ebrill (gemau 35 mun)
- 12:00 CYMRU v IWERDDON
- 13:00 IWERDDON v FFRAINC
- 14:00 LLOEGR v CYMRU
- 15:30 FFRANIC v YR EIDAL
- 16:30 YR ALBAN v LLOEGR
- 17:30 YR EIDAL v YR ALBAN
Diwrnod 3: Sadwrn 6ed Ebrill (gemau 70 mun)
- 12:00 FFRAINC v LLOEGR
- 14:15 CYMRU v YR EIDAL
- 16:30 YR ALBAN v IWERDDON
U18-Womens-Six-Nations-Festival-2024-Screen-CYMRAEG2