Trac athletau ar ei newydd wedd wedi'i ddadorchuddio ym Mae Colwyn
Track - welsh logo
Mae gwaith adnewyddu gwerth £330,000 ar drac athletau Stadiwm CSM ym Mharc Eirias wedi’i gwblhau diolch i Grant Cronfa Allweddol y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Dros y 10 wythnos ddiwethaf, mae’r trac rhedeg wedi cael wyneb hollol newydd, gan gynnwys is-strwythur a haen uchaf newydd. Mae mannau neidio’r trac, gan gynnwys y pwll traws gwlad, hefyd wedi cael eu hadnewyddu. Mae’r trac ar gael i holl aelodau Ffit Conwy ac mae’n bosib ei archebu ochr yn ochr â’r amrywiaeth eang o gyfarpar a chyfleusterau sydd ar gael.
Fel mae Mally Tidswell, Prif Reolwr Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn egluro:
“Mae trac rhedeg Eirias yn ased cymunedol allweddol a ddefnyddir yn helaeth gan ysgolion a chlybiau athletau. Roedd yn hen bryd buddsoddi ynddo ac rwy’n falch iawn bod y gwaith hwn wedi cael ei gwblhau.
“Roedd hi mor bwysig gwneud y gwaith hwn, ac rwy’n hynod falch bod ei ddyfodol bellach yn ddiogel.”
Meddai James Williams, Prif Swyddog Gweithredol Athletau Cymru:
“Mae Stadiwm CSM ym Mharc Eirias yn gyfleuster allweddol yn y rhanbarth, ac yn un sydd wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad y gamp ar draws Gogledd Cymru yn hanesyddol. Mae’n wych gweld y buddsoddiad hwn sy’n diogelu’r cyfleuster o safbwynt athletau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
“Gobeithio bydd y cyfleuster ar ei newydd wedd yn sbardun ar gyfer twf pellach mewn cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol a llythrennedd corfforol i bobl ifanc ledled y rhanbarth. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gael gweld cystadlaethau athletau trwyddedig yn dychwelyd i Stadiwm CSM yn y blynyddoedd i ddod.”
Meddai’r Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd y Cyngor:
“Rwy’n falch iawn bod y gwaith yma’n golygu y bydd y trac bellach yn cynnig cyfleuster gwych i gyd-fynd â’r amrywiaeth eang o adnoddau chwaraeon a ffitrwydd sydd ar gael i’r cyhoedd yn Eirias.
“Mae’r trac hwn yn adnodd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n darparu ar gyfer athletwyr unigol, ysgolion a chystadlaethau clybiau, ac ar gael i’r gymuned, i ddatblygu chwaraeon ac ar gyfer athletau cystadleuol.”
Gwnaed y gwaith adnewyddu gan Hunts Contractors Ltd.
Track 900 x 500 px (2)
Lluniau: Surfacing Standards