Arolwg Adnewyddu'r Gampfa 2025
Dweud eich dweud!
Fel un o aelodau gwerthfawr Ffit Conwy, mae eich barn yn hynod bwysig i ni.
Rydym wrthi’n meddwl am ffyrdd o ddatblygu ein cyfleusterau ffitrwydd ymhellach. Un elfen dan ystyriaeth yw dyluniad a chyfarpar y campfeydd yn y mannau canlynol:
- Canolfan Hamdden Abergele
- Hwb Yr Hen Ysgol, Llanrwst
- Canolfan Nofio Llandudno
Hoffem greu man hyfforddi sy’n gweithio’n well.
Byddai hyn yn cynnwys:
- cael gwared â’r peiriannau ymwrthiant sefydlog a chynnig gwell dewis o ddymbelau, pwysau tegell a bagiau pwysau, ynghyd â rheseli codi. .
- tychwanegu cyfarpar fel beiciau aer, peiriannau rhedeg crwm a pheiriannau sgïo. (Byddai peiriannau cardio yn dal i fod yn rhan allweddol o’r gampfa, ond gan wyro oddi wrth y peiriannau rhedeg a’r beiciau llonydd traddodiadol)
Mae’r lluniau isod yn rhoi syniad i chi o’r math o gyfleuster rydym ni’n ei ystyried ar hyn o bryd yn y safleoedd hyn, gan geisio cynnig mannau hyfforddi sy’n gweithio’n well.
Mae eich barn chi’n bwysig i ni
Mae’n hynod bwysig i ni ein bod yn cael clywed beth rydych chi’n ei feddwl am hyn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Fyddech chi cystal â rhannu eich barn am y syniadau hyn drwy lenwi arolwg byr?
Dyddiad cau’r arolwg: Dydd Mawrth 30 Medi 2025
Gwnewch yr arolwg